Wendy Lawrence
….
Ceramics
..
Gwaith Cerameg
….
….
Wendy discovered clay on an art foundation course over 20 years ago and immediately fell in love with the material’s versatility - a passion that has never wavered. Her time is divided between creating her own work, teaching, and collaborating with other makers and disciplines. She thrives on experimentation, sharing knowledge, and inspiring others to develop the same enthusiasm.
Her work draws inspiration from natural forms and textures, as well as architecture and antiquity. Wendy enjoys working on a varied scale and carving into the clay body. The making process incorporates a range of unorthodox hand-building techniques, allowing her to work spontaneously with clay in an effort to capture both structure and disorder. She uses volcanic glazes and fires her pieces to stoneware temperature. The glazing process is unconventional, employing highly reactive and eruptive materials applied thickly in multiple layers to create rich, textural surfaces. This approach enhances the geological quality of the work and introduces an exciting element of chance and unpredictability.
..
Daeth Wendy o hyd i glai ar gwrs sylfaen celf dros ugain mlynedd yn ôl a syrthio mewn cariad yn syth â hyblygrwydd y deunydd – angerdd nad yw byth wedi pallu. Caiff ei hamser ei rannu rhwng creu ei gwaith ei hun, dysgu, a chydweithio gyda gwneuthurwyr a disgyblaethau eraill. Mae’n ffynnu ar arbrofi, rhannu gwybodaeth, ac ysbrydoli eraill i ddatblygu’r un brwdfrydedd.
Caiff ei gwaith ei ysbrydoli gan ffurfiau a gweadeddau naturiol, ynghyd â phensaernïaeth a hynafiaeth. Mae Wendy’n mwynhau gweithio ar raddfa amrywiol a cherfio i gorff y clai. Mae’r broses greadigol yn ymgorffori ystod o dechnegau adeiladu â llaw anarferol, gan ei chaniatáu i weithio’n ddifyfyr gyda chlai mewn ymdrech i ddal strwythur ac anhrefn hefyd. Mae’n defnyddio gwydreddau folcanig ac yn tanio’i darnau i dymheredd crochenwaith caled. Mae’r broses gwydro’n anghonfensiynol, yn defnyddio deunyddiau tra adweithiol a ffrwydrol wedi’u gosod yn drwchus mewn haenau lluosog er mwyn creu arwynebau cyfoethog, gweadeddol. Mae’r ymagweddu hwn yn cyfoethogi nodwedd ddaearegol y gwaith ac yn cyflwyno elfen gyffrous o’r anrhagweladwy a hap.
….