Rauni Higson
….
Jewellery
..
Gemwaith
….
….
Rauni Higson is one of Britain’s leading silversmiths. Originally trained in Finland, her studio, a converted chapel, is located in the dramatic landscape of Snowdonia, a rich backdrop of mountainous crags and rugged coastline that informs her work. All her pieces are made by hand and by hammer, using her contemporary interpretation of traditional skills.
“I am fascinated by capturing movement, growth, fluidity and flow in the seemingly rigid medium of metal… I leave evidence of the process of making in my finished pieces so that people can see that they are formed by hammers and hands. I make many of my own tools to create my distinctive style. I strive to capture something of the beauty of nature without directly imitating it. I like to describe my work as a love letter to Snowdonia.”
Rauni has personally mentored a number of the next generation of silversmiths and pioneered the Contemporary British Silversmiths Skills Training Programme which launched in 2016.
..
Mae Rauni Higson yn un o ofaint arian mwyaf blaenllaw Prydain. Cafodd ei hyfforddi’n wreiddiol yn y Ffindir, ac mae ei stiwdio, capel wedi’i addasu, wedi’i lleoli yn nhirwedd ddramatig Eryri, cefnlen gyfoethog o greigiau mynyddig ac arfordir garw sy’n llywio ei gwaith. Gwnaed ei holl ddarnau â llaw a morthwyl, gan ddefnyddio ei dehongliad cyfoes o sgiliau traddodiadol.
“Caf fy nghyfareddu wrth ddal symudiad, tyfiant, llifedd a llif yn y cyfrwng ymddangosiadol anhyblyg o fetel… Rwy’n gadael tystiolaeth o’r broses greadigol yn fy narnau gorffenedig fel bod pobl yn medru gweld eu bod wedi eu ffurfio gan forthwylion a dwylo. Rwy’n llunio llawer o’m hoffer fy hun er mwyn creu fy arddull arbennig. Rwy’n ymdrechu i ddal rhywbeth o harddwch natur heb ei ddynwared yn uniongyrchol. Rwy’n hoffi disgrifio fy ngwaith fel llythyr serch i Eryri.”
Mae Rauni wedi mentora nifer o ofaint arian y genhedlaeth nesaf yn bersonol ac wedi arloesi Rhaglen Hyfforddi Sgiliau’r Contemporary British Silversmiths a lansiwyd yn 2016
….
….
Small White Kelp Pendant on Cable.
White Kelp Pendant on cable necklet designed and made by contemporary jewellery designer Rauni Higson. A striking pendant evoking the ripples of kelp seaweed underwater. Each piece is individually hammered from a single folded sheet of sterling silver into a powerful form creating a striking impression. The design is sculptural and three-dimensional, but still lightweight and easy to wear.
Material: Sterling Silver
Size: Omega cable necklet is 18″/45cm.
..
Tlws Crog Môr-wiail Bychan Gwyn ar Gebl.
Dyluniwyd a gwnaed y Tlws Crog Môr-wiail Gwyn ar yddfdlws cebl gan y dylunydd gemwaith cyfoes Rauni Higson. Mae’r tlws crog trawiadol yn dwyn crychdonnau gwymon môr-wiail tanddwr i’r meddwl. Caiff pob darn ei forthwylio’n unigol o un ddalen blyg o arian sterling yn ffurf rymus sy’n creu argraff drawiadol. Mae’r dyluniad tri-dimensiwn yn gerfluniol ac eto’n ysgafn ac yn hawdd ei wisgo.
Defnydd: Arian Sterling
Maint: Mae’r gyddfdlws cebl Omega yn 18″/45cm
….