4M2A1560.jpg

Jenny Murray

Artist Name Here

Jenny Murray

….

Ceramics

..

Gwaith Cerameg

….

….

Jenny is a local artist and potter who draws inspiration from the landscape that surrounds her - and in particular, the effect of the constantly changing Welsh weather upon it. Her studio window looks out onto the rolling hills and upland pastures of the Clwydian Range. She has a deep love of nature and an hourly appreciation of how the sun, its light, and clouds transform the dourest of days into something interesting and breathtaking.

“I enjoy the process of throwing - physicality aside! - finding it almost therapeutic. I use a mix of earthenware, stoneware and porcelain clays, each type having its own special qualities. My style of decoration is understated: I use the clay body to provide background colour, before employing coloured slip (liquid clay) and hand-drawn decoration to give each piece a unique identity. I do this through the use of hand-drawn lines or images, coloured with slip washes and oxides, giving each piece its own individual feel.”

..

Mae Jenny Murray yn artist ac yn grochenydd lleol. Caiff ei hysbrydoli gan y dirwedd sy’n ei hamgylchynu - ac, yn enwedig, effaith y tywydd Cymreig sy’n barhaol newid arni.

Mae ffenestr ei stiwdio yn edrych allan ar fryndiroedd tonnog a ffriddoedd Bryniau Clwyd. Mae ganddi gariad mawr at natur a gwerthfawrogiad bob awr o sut mae’r haul, ei oleuni, a’r cymylau yn trawsnewid y diwrnodau mwyaf llwm yn rhywbeth diddorol sy’n tynnu’r anadl.

“Rwy’n mwynhau’r broses o daflu – heb sôn am yr ochr gorfforol! – rwy’n ei chael yn therapiwtig bron. Rwy’n defnyddio cymysgedd o gleiau llestri pridd, crochenwaith caled a phorslen, mae gan bob un ei nodweddion arbennig. Mae fy arddull o addurno’n gynnil: rwy’n defnyddio corff y clai i ddarparu lliw cefndir, cyn defnyddio slip lliw (clai hylifol) ac addurn wedi’i lunio â llaw er mwyn rhoi hunaniaeth unigryw i bob darn. Rwy’n cyflawni hyn drwy ddefnyddio llinellau neu ddelweddau wedi’u tynnu â llaw, ac wedi’u lliwio â golchiadau slip ac ocsidau, gan roi ymdeimlad unigol i bob darn.”

….