Mari-Ruth Oda
….
Artist
..
Artist
….
….
Mari-Ruth Oda is a Japanese artist living and working in North Wales. She was born in Papua New Guinea and lived in Bangkok, Tokyo, Belgrade and New York before moving to the UK.
She has undertaken commissions from all over the globe and her artworks have been exhibited internationally including the Royal Academy of Arts London, Shigaraki Ceramic Cultural Park in Japan, Musée de Carouge in Switzerland and the Victoria & Albert Museum of London.
"I am inspired by nature, in its various shapes and forms as well as my feelings of reverence towards it. Being of Japanese background, this may have its roots in the nature worshipping ideas of Shintoism.
In nature form seems to repeat itself in differing context and scale. I enjoy abstracting a form out of its context and boiling it down to its bare essence that first attracted me to the form. This includes my emotional response to it. The shape left is something ambiguous that could be interpreted in many ways. It is often a combination of natural forms that are neither one thing nor another, with added intentions and feelings that I want to convey.
Ultimately, however, I believe how one identifies with and draws meaning from a sculpture is unique to the observer".
..
Mae Mari-Ruth Oda yn artist o Japan sy'n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Ganwyd hi ym Papua Gini Newydd ac mae hi wedi byw yn Bangkok, Tokyo, Belgrade ac Efrog Newydd cyn symud i'r DU.
Mae hi wedi ymgymryd â chomisiynau o bob cwr o'r byd ac mae ei gwaith celf wedi cael ei arddangos yn rhyngwladol, gan gynnwys yn y Royal Academy of Arts yn Llundain, Parc Diwylliannol Ceramig Shigaraki yn Japan, Musée de Carouge yn y Swistir ac Amgueddfa Victoria & Albert yn Llundain.
"Rwy'n cael fy ysbrydoli gan natur, yn ei gwahanol siapiau a ffurfiau, yn ogystal â'r parch dwfn rwy'n ei deimlo tuag ati. Gan fy mod o gefndir Japaneaidd, gallai hyn fod â'i wreiddiau yn y syniadau o addoli natur sy'n rhan o Shintoaeth.
Ym myd natur, mae'n ymddangos bod ffurfiau'n ailadrodd eu hunain mewn cyd-destunau ac ar raddfeydd gwahanol. Rwy'n mwynhau tynnu ffurf allan o'i chyd-destun a'i lleihau i'r hanfod pur a ddenodd fi at y ffurf yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cynnwys fy ymateb emosiynol iddi. Mae'r siâp sy'n weddill yn rhywbeth amwys y gellir ei ddehongli mewn sawl ffordd. Yn aml, cyfuniad o ffurfiau naturiol ydyw – pethau nad ydynt yn un peth na'r llall – ynghyd â bwriadau a theimladau ychwanegol rwyf am eu cyfleu.
Yn y pen draw, fodd bynnag, credaf fod y ffordd y mae rhywun yn uniaethu â cherflun ac yn deillio ystyr ohono yn rhywbeth unigryw i'r sawl sy'n ei weld."
….