Images: © Mori Sassoon..Delweddau: © Mori Sassoon
Junko Mori
….
Metalwork
..
Gwaith Metel
….
….
Junko Mori is a Japanese artist based in Wales. Working primarily in metalwork sculpture, Mori’s works are aggregate pieces usually connected thematically and visually to her observations of living matter, particularly plants. Her choice of metal varies widely from silver to mild steel, as does the size and scale of her works, which range from smaller tabletop pieces to largescale sculptures.
Her distinctive style is one of contrasts and blending, drawing on her metalworking and sculptural education in both Japan and the UK, as well as constantly blurring the boundaries between fine art and craft. She has been described as "one of the most innovative and exciting Japanese metal artists working today," and has exhibited widely internationally throughout the past several decades. Her work can be found in public and private collections around the world, including the British Museum, the Victoria & Albert Museum, and the Honolulu Museum of Art.
..
Mae Junko Mori yn artist o Japan sy'n gweithio yng Nghymru. Gan ganolbwyntio'n bennaf ar gerfluniau metel, mae gweithiau Mori yn ddarnau cyfansawdd sydd fel arfer yn gysylltiedig, yn thematig ac yn weledol, â'i harsylwadau o fyd natur – yn enwedig planhigion. Mae'r metelau y mae'n eu defnyddio yn amrywio'n fawr, o arian i ddur meddal, ac mae maint a graddfa ei gweithiau hefyd yn amrywio, gan ymestyn o ddarnau bach ar gyfer arwynebau bwrdd i gerfluniau ar raddfa fawr. Mae ei steil unigryw yn un o gyferbyniadau a chyfuniadau; mae'n tynnu ar ei hyfforddiant mewn gwaith metel a cherflunio yn Japan a'r DU, ac yn parhau i gymylu'r ffiniau rhwng celfyddyd gain a chrefft. Disgrifiwyd hi fel "un o'r artistiaid metel mwyaf arloesol a chyffrous o Japan sy'n gweithio heddiw," ac mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang ar draws y byd dros y degawdau diwethaf. Gellir gweld ei gwaith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat ledled y byd, gan gynnwys Amgueddfa Prydain (British Museum), Amgueddfa Victoria ac Albert, ac Amgueddfa Gelf Honolulu.
….