Disheswithspares_InReverence_ZoePreece_DTL.jpg

....Zoe Preece: In Reverence..Zoe Preece: Mewn Gwrogaeth....

….

Zoe Preece: In Reverence

Gallery 2

..

Zoe Preece: Mewn Gwrogaeth

Oriel 2

….

….

22 April – 2 July 2023

Cardiff based artist Zoe Preece has created this series of ordinary domestic objects – intricately carved by hand from porcelain or turned from plaster on a lathe (a machine that spins at speed from which plaster forms can be carved). These fragile and beautifully crafted objects attempt to engage with the intangible, unsettling and tender aspects of domestic life. Simple kitchenware and furniture are contemplated not simply for their form and function, but their social purpose and the stories they embody.

Alongside the porcelain are sculptural furniture pieces made from walnut, with moulded forms such as folded tea towels or an open book. Made in collaboration with furniture maker Jennifer Finnegan, and Fablab Cardiff, using their 3D scanning processes and CNC milling technologies.

Each meticulously made piece takes many hours to create. For the artist, the repetitive and unseen activity of her craft resonates with the ceaseless, invisible domestic labour undertaken within the home. It is this often unnoticed, undervalued work that Preece tries to capture in this installation.

..

22 Ebrill – 2 Gorffennaf 2023

Mae’r artist Zoe Preece, sydd wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd, wedi creu cyfres o wrthrychau domestig cyffredin wedi’u cerfio’n gywrain o borslen â llaw neu o blastr wedi’i droi ar durn (peiriant sy’n troelli ar gyflymder y mae modd ei ddefnyddio i gerfio plastr). Mae’r gwrthrychau bregus a luniwyd yn hardd yn ceisio cyfleu’r agweddau o fywyd domestig sy’n anodd eu dal, yn aflonyddu ac eto’n dyner. Myfyrir ar offer cegin a chelfi syml nid yn unig oherwydd eu ffurf a’u swyddogaeth ond hefyd am eu diben cymdeithasol a’r straeon y maen nhw’n ymgorffori.

Ochr yn ochr â’r porslen ceir darnau o gelfi cerfluniol o bren collen Ffrengig sydd wedi’u mowldio i edrych fel llieiniau sychu llestri wedi’u plygu neu lyfr agored. Crëwyd y rhain mewn cydweithrediad â’r gwneuthurwr celfi Jennifer Finnegan a Fablab, Caerdydd gan ddefnyddio’u prosesau sganio 3D a thechnolegau melino CNC.

Mae pob un darn, wedi’i lunio’n fanwl gywir, yn cymryd oriau lawer i’w greu. I’r artist mae gweithgaredd ailadroddus ac anweledig ei chrefft yn adleisio’r gwaith llafur domestig parhaus ac anweladwy a wneir yn y cartref. Hwn yw’r gwaith disylw nad yw’n cael ei werthfawrogi’n aml y mae Preece yn ceisio’i gyfleu yn y gosodwaith hwn.

….