Wycliffe-Stutchbury-Hundred-Foot-Drain-15.jpg

....Natural (Re)Sources..Adnoddau Naturiol....

….

Natural (Re)Sources

Gallery 1

..

Adnoddau Naturiol

Oriel 1

….

….

8 July – 24 September 2023

Laura Ellen Bacon / Claire Benn / Daisy Imogen Buckle / Shannon Clegg / Geoffrey Fisher / Alice Fox / Daniel Freyne / Lise Herud Braten / Jane Ponsford / Julie Rignell / Amanda-Sue Rope / Annie Slack / Wycliffe Stutchbury / Gizella K Warburton

Natural (Re)Sources looks at the origin of the artist’s chosen materials. This doesn’t mean that the finished work looks as if it has just been collected from a forest floor, or dug from the ground without intervention, but rather that the material basis for the work is ‘of the earth’ in various forms.

Here we see the results of makers efforts to embrace the bounty that the earth proffers, working harmoniously with their chosen materials. Wycliffe Stutchbury takes the spoils of fallen trees or abandoned timber pallets and meticulously moulds and shapes beautiful meanderings of wooden shingles. Annie Slack carves her selected seasoned wooden bounty into sensuously formed spoons. Geoffrey Fisher coppices wood from his local area – a time honoured tradition that keeps woodland healthy – and works with the green wood to craft his range of brushes and newly completed crates. Jane Ponsford and Gizella K Warburton take further the refining of wood to produce their quietly considered paper and mixed fibre creations.

Blacksmith Daniel Freyne has collected iron laden stones from the beaches of Scandinavia, broken them down, smelted and then raised the resulting iron ore to form his eloquent vessels. Objects that are an ode to the rudimentary beginnings and fundamental awareness of our earth’s resources.

Shannon Clegg, Alice Fox and Julie Rignell all share a passion for plant materials and create pieces attuned to their origins, with little or no intervention from anything other than their hands. Environmental concerns are at the centre of Daisy Imogen Buckle’s practice. Using plant and other natural fibres she harnesses her talent for yarn and fabric manipulation with recycled, repurposed fabric and hand-woven pieces, making use of paper, woollen and cotton threads. Laura Ellen Bacon uses willow as the basis of her extraordinary abstract creations, that can feel strangely similar to organic growth and natural phenomena. Linen is Claire Benn’s canvas, to which she applies natural earth pigments bound with soya milk, together with hand-stitched natural fibre threads, to tell stories of the earth’s resources and current predicaments.

Earth itself, clay, rounds off the selection of earthly riches, with works by ceramicists Lise Herud Braten and Amanda-Sue Rope. We see how their differing approaches to the manipulation of clays and contrasts in their inspiration and visual language, result in two very different outcomes, although sharing the same fundamental methodologies and process that a fired and finished ceramic demands.

All fourteen artist-makers excel in their fields; producing works that are a testament to using our Earth’s Natural (Re)Sources for the benefit of us, the people that come to view and appreciate their talents.

Gregory Parsons, Curator

..

8 Gorffennaf – 24 Medi 2023

Laura Ellen Bacon / Claire Benn / Daisy Imogen Buckle / Shannon Clegg / Geoffrey Fisher / Alice Fox / Daniel Freyne / Lise Herud Braten / Jane Ponsford / Julie Rignell / Amanda-Sue Rope / Annie Slack / Wycliffe Stutchbury / Gizella K Warburton

Mae Adnoddau Naturiol yn edrych ar ffynhonnell y defnyddiau mae’r artist wedi’u dewis. Nid yw hwn yn golygu bod y gwaith gorffenedig yn ymddangos fel petai wedi cael ei gasglu o lawr y goedwig, neu’i gloddio o’r ddaear heb ymyriad, ond yn hytrach bod sail faterol y gwaith mewn amryfal ffurf ‘o’r ddaear’.

Yma gwelwn ganlyniad ymdrechion gwneuthurwyr i gofleidio’r haelioni a gynigir gan y ddaear gan weithio mewn cytgord â’r defnyddiau o’u dewis. Cymer Wycliffe Stutchbury ysbail goed wedi syrthio neu baledau pren wedi’u gadael a’u hanghofio ac yn mowldio a siapio dolennau hardd o deils pren. Mae Annie Slack yn cerfio’i haelioni o goed wedi’i sychu ar ffurf llwyau synhwyrus. Mae Geoffrey Fisher yn prysgoedio pren o’i fro – traddodiad anrhydeddus ac oesol sy’n cadw coedlannau’n iach – ac yn gweithio gyda’r coed heb ei sychu i grefftio ystod o frwshys a chratiau newydd eu cwblhau. Cymer Jane Ponsford a Gizella K Warburton y weithred o goethi pren gam ymhellach er mwyn cynhyrchu, wedi ystyriaeth ofalus, eu creadigaethau papur a ffibr cymysg. Mae’r gof Daniel Freyne wedi casglu cerrig sy’n llawn haearn o draethau gwledydd Llychlyn, eu torri a’u smeltio ac yna codi’r mwyn haearn er mwyn ffurfio’i lestri huawdl. Mae’r rhain yn wrthrychau sy’n canu i’r dechreuadau elfennol ac i’r ymwybyddiaeth sylfaenol adnoddau ein daear.

Mae Shannon Clegg, Alice Fox a Julie Rignell i gyd yn rhannu’r angerdd dros ddefnyddiau planhigol ac maen nhw’n creu darnau sydd mewn cytgord â’u tarddiadau, gydag ond ychydig os nad dim ymyriad oni bai am eu dwylo. Ystyriaethau amgylcheddol sy’n ganolog i ymarfer Daisy Imogen Buckle. Wrth ddefnyddio ffibrau planhigion a ffibrau eraill mae’n harneisio’i dawn edafedd a thrafod ffabrig gyda defnydd wedi’i ailgylchu a’u hailddefnyddio a darnau wedi’i gweu â llaw gan ddefnyddio papur ac edafedd cotwm a gwlân. Defnyddia Laura Ellen Bacon helyg yn sail i’w creadigaethau haniaethol arbennig, sy’n ymddangos yn hynod o debyg i dyfiant organig neu ffenomenau naturiol. Llin yw canfas Claire Benn ac ar hwn mae’n rhoi pigmentau naturiol y pridd wedi’u clymu at gilydd gan laeth soia ynghyd ag edeifion ffibr naturiol wedi’u pwytho â llaw a hynny i adrodd straeon ynghylch adnoddau’r ddaear a’r heriau presennol.

Clai o’r ddaear ei hun, sy’n cwblhau’r detholiad o gyfoeth y ddaear, sydd yng ngwaith yr artistiaid cerameg Lise Herud Braten a Amanda-Sue Rope. Gwelwn sut mae eu hymagweddu gwahanol i drin a thrafod cleiau ynghyd a’r cyferbyniadau yn eu hysbrydoliaeth ac iaith weledol yn arwain at ddau ganlyniad tra gwahanol, er eu bod yn rhannu’r un dulliau a phrosesau sy’n ofynnol ar gyfer tanio a chwblhau darn cerameg.

Mae’r 14 artist-wneuthurwr yn rhagori yn eu meysydd gan gynhyrchu gwaith sy’n destament i ddefnyddio Adnoddau Naturiol ein Daear er ein budd ni, y bobl sy’n dod i weld a gwerthfawrogi eu doniau.

Gregory Parsons, Curadur

….