BANNER.jpg

....Tim Pugh - On The Wall..Tim Pugh – Ar Wal....

….

Tim Pugh - On The Wall

Courtyard Project Spaces A & B

..

Tim Pugh – Ar Wal

Gofodau Prosiect Cwrt A a B

….

….

25 March – 7 May 2023

I am an Environmental Artist based in Flintshire, working with a wide range of mixed media and materials which are used to create temporary installations and drawings.

Since attending Wrexham and Edinburgh Colleges of Art I have exhibited my work in galleries and other venues across the UK and abroad. In addition I have undertaken many residencies, exchange travel schemes, projects at home and internationally, and have been the recipient of numerous prizes and bursaries. I also conduct workshops for schools and community groups working with people of all ages and abilities.

I view drawing as a vital component of my practice which complements my outdoor work and the drawings exhibited at Ruthin Craft Centre provide an insight into my thought processes and ideas.

The main component of work displayed is comprised of pencil and watercolour studies of objects I have found on my travels. These include machinery bits and pieces from an old hat factory, tools from a jewellery studio and natural objects discovered on beaches and moorland.

In addition, on display are design/idea sheets where I have used pencil and mixed media to document ideas for future artworks and installations.

A series of crafted fine art by north Wales artists Series curation: Jonathan Le Vay.

..

25 Mawrth – 7 Mai 2023

Rwy’n Artist Amgylcheddol sydd wedi sefydlu yn Sir y Fflint ac yn gweithio gydag ystod eang o gyfryngau cymysg a deunyddiau caiff eu defnyddio i greu gosodweithiau a lluniadau dros dro.

Ers mynychu Colegau Celf Wrecsam a Chaeredin rwyf wedi arddangos fy ngwaith mewn orielau a lleoliadau eraill ar hyd y DG a thramor. Yn ogystal rwyf wedi ymgymryd â phreswyliadau niferus, cynlluniau teithiau cyfnewid, prosiectau gartref ac yn rhyngwladol ac wedi ennill aml i wobr a bwrsari. Rwyf hefyd yn cynnal gweithdai ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol gan weithio gyda phobl o bob oed a gallu.

Rwy’n ystyried lluniadu’n rhan hanfodol o fy ymarfer sy’n cyd-fynd â fy ngwaith awyr agored ac mae’r lluniadau sydd wedi’u harddangos yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn cynnig mewnwelediad i fy mhrosesau meddwl a’m syniadau.

Mae prif ran y gwaith sydd wedi’i arddangos yn cynnwys astudiaethau pensil a dyfrlliw o wrthrychau rwyf wedi’u canfod ar fy nheithiau. Mae’r rhain yn cynnwys darnau o beiriannau o hen ffatri hetiau, offer o stiwdio gemwaith a gwrthrychau naturiol wedi’u darganfod ar draethau a rhostiroedd.

Yn ychwanegol at hyn, ceir dalennau dylunio/syniadau yn yr arddangosfa lle rwyf wedi defnyddio cyfryngau cymysg er mwyn dogfennu syniadau ar gyfer gweithiau celf a gosodweithiau’r dyfodol.

Cyfres o gelfyddyd gain wedi’i saernïo gan artistiaid Gogledd Cymru Curadur y gyfres: Jonathan Le Vay.

….