Banner.jpg

....Jeanette Orrell – Drawings on Indigo..Jeanette Orrell – Lluniadau ar Indigo....

….

Jeanette Orrell – Drawings on Indigo

Gallery 1

..

Jeanette Orrell – Lluniadau ar Indigo

Oriel 1

….

….

22 April – 2 July 2023

Indigo is woven through our consciousness in the colour of hills, sea and sky. It is an intimately familiar colour that somehow remains equally strange. From unsuspectingly green leaves, a blue pigment is drawn and imbued universally with the deepest of spiritual and societal worth.

Combining a daily drawing practice with the ancient art of indigo dyeing, Jeanette Orrell’s work reflects the power of art to process life’s events. Drawings on Indigo brings together a body of work developed in the period following the loss of her father, contemplating experiences of mourning, recovery and regrowth. The work speaks to universal experience through a personal journey, sensitively and eloquently conveying the slow patterns of regrowth that follow grief. Abstracted botanical forms resist-dyed onto wool and hand-stitched collages made from naturally dyed linens show an artistic practice that employs a range of creative vocabularies whilst remaining rooted in drawing.

Born in Leigh, Lancashire in 1964, Orrell studied ceramics at Camberwell School of Art (1982–1985). Following graduation from Camberwell, she travelled between London, Japan, and Greece before eventually returning to the North West of England, where she worked from home whilst bringing up two daughters. She has been living and working in Wales for over 20 years and in 2017, was a recipient of the Arts Council of Wales Creative Wales Award. The award granted her funding to travel back to Japan in order to study indigo dyeing at a farm in the foothills of Mt. Fuji. Her work weaves together a fine art practice with craft techniques and is informed by understandings of familial ties, nature, making and motherhood.

..

22 Ebrill – 2 Gorffennaf 2023

Mae indigo wedi’i weu drwy ein hymwybyddiaeth yn lliw’r bryniau, y môr a’r awyr. Er ei fod yn lliw llwyr gyfarwydd mae rhywsut yn aros yr un mor ddieithr. Caiff y lliw glas ei dynnu yn ddiarwybod o ddail gwyrdd ac yna ei hydreiddio’n eang gyda’r arwyddocâd ysbrydol a chymdeithasol dyfnaf.

Drwy gyfuno ymarfer lluniadu’n ddyddiol gyda chelfyddyd hynafol llifo indigo mae gwaith Jeanette Orrell yn adlewyrchu grym celfyddyd i brosesu digwyddiadau bywyd. Mae Lluniadau ar Indigo yn cyfuno corff o waith a ddatblygwyd ar ôl colli ei thad a myfyrio ar brofiadau galar, adfeddiannu ac aildyfu. Wrth gyfleu’n sensitif a huawdl y patrymau araf o aildyfu sy’n dilyn galar drwy siwrnai bersonol mae’r gwaith yn ymwneud â phrofiad byd-eang. Mae ffurfiau botanegol haniaethol wedi’u gwrthlifo ar wlân a gweithiau collage wedi’u pwytho â llaw a grëwyd o linau wedi’u llifo’n naturiol yn dangos ymarfer artistig sy’n defnyddio ystod o eirfaoedd creadigol sy’n aros wedi’u gwreiddio mewn lluniadu.

Ganed Orrell yn Leigh, Swydd Gaerhirfryn ym 1964 ac astudiodd yn Ysgol Gelf Camberwell (1982–1985). Ar ôl graddio o Camberwell teithiodd rhwng Llundain, Siapan a gwlad Groeg cyn dychwelyd yn y pendraw i ogledd-orllewin Lloegr gan weithio o’i chartref yno wrth fagu dwy ferch. Mae hi wedi byw a gweithio yng Nghymru ers dros 20 mlynedd ac yn 2017 enillodd Wobr Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru. Galluogodd y wobr iddi dalu am ei thaith yn ôl i Siapan er mwyn astudio llifo indigo mewn fferm ar odre Mynydd Fuji. Mae ei gwaith yn cyd-weu ymarfer celfyddyd gain gyda thechnegau crefft ac wedi’i lywio gan ddealltwriaeth o glymau teuluol, natur, creu a bod yn fam.

….