Void-detail-1.-Photo-Diana-Oliveria.jpg

....Laura Thomas: Woven / Unwoven..Laura Thomas: Wedi’i Wehyddu / Heb ei Wehyddu....

….

Laura Thomas: Woven / Unwoven

Gallery 3

..

Laura Thomas: Wedi’i Wehyddu / Heb ei Wehyddu

Oriel 3

….

….

30 September 2023 – 7 January 2024

Thread is a powerful metaphor, a material laden with symbolism and a basis for a craft language understood the world over. We find myths, stories and tales from myriad cultures and time immemorial leaning upon these metaphors to tell us something about being human. For me, perhaps the most arresting is the story of the Three Fates in Greek mythology: Clotho spun the thread of life, Lachesis measured it and Atropos determined where it should be cut.

The poetry of the unwoven thread and my guiding it along a particular path, is but a drawn line in another form. It’s interesting to note that the English word ‘line’ derives from the use of a linen (flax) thread used to determine a straight line. A thread as a unit of measurement, a tool to demark space, a plumb-line or as a marker of an edge is potent.

This exhibition represents a distillation of all my areas of interest in working with thread, making both woven and unwoven works. The transformation of passive threads, metaphors for fate, held taut on a loom to be woven into a fabric or placed into position to be encapsulated in glass or resin, has kept me transfixed for over two decades and is at the very root of this collection of works.

I use threads as lines to evoke what captures my attention in the world around me, whether that be the horizon as I gaze out to sea, the edge of a hillscape where land meets sky, a full moon, or the minutiae within coastal strata’s and sand patterns that I have observed since childhood.

The textile artworks were created intuitively and are intended to present a quiet, visual meditation; a reaction against the chaos and uncertainty of recent times. There are gentle rhythms, glimpses beyond the surface and evocative textures to capture our curiosity and ground busy minds.

Laura Thomas

..

30 Medi 2023 – 7 Ionawr 2024

Mae edafedd yn drosiad grymus, mae’n ddefnydd sydd wedi’i lwytho â symbolaeth ac yn sail ar gyfer iaith grefft a ddeellir ar draws y byd. Rydym yn canfod mythau, hanesion a chwedlau yn niwylliannau dirifedi ers cyn hanes sy’n ddibynnol ar y trosiadau hyn i adrodd ynghylch bod yn ddynol. I mi, efallai’r hyn sydd fwyaf trawiadol yw stori’r Tynghedau ym mytholeg Gwlad Groeg: gwehyddai Clotho edafedd bywyd, mesurai Lachesis ef a phenderfynai Atropos ym mha le y dylid ei dorri.

Dim ond ffurf arall o luniadu llinell yw barddoniaeth edefyn heb ei wehyddu a minnau’n ei arwain ar hyd llwybr penodol. Mae’n ddifyr nodi bod y gair Saesneg ‘line’ yn tarddu o ddefnyddio edau llin i bennu llinell syth. Mae ystyried edefyn fel uned o fesur, modd i nodi terfyn gofod, llinell blymen neu farciwr ymyl, yn syniad grymus.

Mae’r arddangosfa hon yn cynrychioli distylliad o holl feysydd fy niddordeb sy’n ymwneud â gweithio gydag edafedd, creu gweithiau wedi’u gwehyddu a heb eu gwehyddu. Yr hyn sydd wrth wraidd y casgliad hwn ac sydd wedi fy swyno dros ddau ddegawd yw trawsffurfiad edafedd goddefol, trosiadau am ffawd, sydd wedi’u dal yn dynn ar ŵydd i’w gwehyddu’n ffabrig neu’u gosod mewn lle i’w hymgorffori mewn gwydr neu resin.

Rwy’n defnyddio edafedd fel llinellau i gyfleu’r hyn sy’n dal fy sylw yn y byd o’m cwmpas, p’un a’i’r gorwel wrth i mi syllu i’r môr, ymyl tirlun bryniau lle mae’r tir yn cwrdd â’r wybren, lleuad lawn, neu fanylion haenau arfordirol a phatrymau tywod rwyf wedi craffu arnyn nhw ers fy mhlentyndod.

Crëwyd y gweithiau celf tecstil yn reddfol a’u hamcan yw cyflwyno myfyrdod tawel, gweledol – ymateb i anrhefn ac ansicrwydd y cyfnod diweddar. Ceir rhythmau ysgafn, cipolygon y tu hwnt i’r wyneb a gweadeddau atgofus i ddal ein chwilfrydedd a llonyddu meddyliau prysur.

Laura Thomas

….