Banner.jpg

....Susan Milne: Land – Printmaker in Focus..Susan Milne: Tir – Golwg ar Wneuthurwr Print....

….

Susan Milne: Land – Printmaker in Focus

Courtyard Project Spaces A & B

..

Susan Milne: Tir – Golwg ar Wneuthurwr Print

Gofodau Prosiect Cwrt A a B

….

….

30 September 2023 – 7 January 2024

For over forty years, Susan Milne has lived in the Black Mountains and has worked in and from the land which surrounds her. Initially from her isolated farmhouse beneath the Twmpa, and later at her shepherd’s hut studio in the Llanthony Valley. More recently, she works from her studio in the foothills of the mountains within sight of the Mynydd Troed, the subject of her series of lockdown drawings.

The charcoal drawings convey the commanding presence of the mountains as well as light shining through the undergrowth around the River Ennig near her home, while the fluid ink drawings were made on her daily lockdown walks and exhibited in her front window to be viewed by those passing by on their own mountain walks. With many of the monoprints, she has looked at the earth beneath her feet rather than the vastness of her surroundings and has incorporated the actual soil of the mountains into the prints.These vary in tone depending on the geological composition and she carefully records the actual locations around her home and in Denbighshire. Some of the works have been made outside in the wind and rain and the paper is distorted and pierced with bits of natural debris incorporated into the printing process.

The award-winning poet and author Owen Sheers lives near Susan Milne in mid Wales and is likewise inspired by the Black Mountains. He has chosen some of his poems to accompany the works in the exhibition.

..

30 Medi 2023 – 7 Ionawr 2024

Mae Susan Milne wedi byw yn ardal y Mynydd Du ers dros ddeugain mlynedd ac wedi gweithio yn y tir ac o’r tir o’i chwmpas – i ddechrau o’i ffermdy diarffordd islaw’r Twmpa ac yna’n hwyrach o’i stiwdio mewn caban bugail yn Nyffryn Ewias. Mae hi bellach yn gweithio o’i stiwdio ar odre’r mynyddoedd yng ngolwg Mynydd Troed a dyma destun ei chyfres o luniadau’r cyfnod clo.

Mae’r lluniau siarcol yn cyfleu presenoldeb aruthrol y mynyddoedd yn ogystal â’r golau sy’n tywynnu drwy’r isdyfiant o gwmpas yr afon Ennig ger ei chartref. Gwnaed y lluniadau inc rhwydd yn ystod y cyfnod clo pan oedd hi’n mynd am dro bob dydd. Ac yna cawsant eu gosod yn ffenestr flaen ei thŷ a hynny er mwyn i’r sawl a oedd yn mynd heibio eu gweld wrth iddynt hwythau fynd am dro yn y mynyddoedd. Gyda llawer o’i monobrintiau mae hi wedi edrych ar y ddaear dan ei thraed yn hytrach nag ar ehangder ei hamgylchfyd ac mae hi wedi ymgorffori pridd go iawn o’r mynyddoedd yn ei phrintiau. Gan ddibynnu ar y cyfansoddiad daearegol mae arlliw’r rhain yn amrywio ac mae hi’n cadw cofnod gofalus o’r union leoliadau o amgylch ei chartref ac yn Sir Ddinbych. Crëwyd peth o’r gwaith megis y Broken Boundary series tu allan yn y gwynt a’r glaw ac mae’r papur wedi’i anffurfio a’i dyllu gan falurion naturiol sydd wedi’u hymgorffori yn y broses brintio.

Mae’r bardd a’r awdur arobryn Owen Sheers yn byw ger Susan Milne yng nghanolbarth Cymru ac yn yr un modd yn cael ei ysbrydoli gan y Mynyddoedd Duon. Mae wedi dewis rhai o’i gerddi i gyd-fynd â’r gweithiau yn yr arddangosfa.

….