Sioned+Timeline.jpg

....Our Landscape..Ein Tirwedd....

....Our Landscape..Ein Tirwedd....

....Open daily, 10am – 5pm..Ar agor yn ddyddiol, 10am – 5pm....

....Studio 5..Stiwdio 5....

....

Our Landscape designed by David Setter

Our activity space is a self-led area for children and their families to explore their inner creativity.

The new installation, produced by local illustrator David Setter, provides an environment in which we can explore the past, present and future of our beautiful surroundings.

It also binds together the relationship between Ruthin Craft Centre building design and the Clwydian Range.

The timeline illustrates the ecological changes throughout millennia. Just imagine if woolly Mammoths still roamed about on our doorstep! What would it be like if we had a huge sheet of ice or a tropical ocean still covering our landscape? What kind of animals might we encounter?

Come and explore the present day and learn about the wildlife and fauna (plants) that inhabit our landscape.

What kind of things can we do to look after our environment to ensure they are still around in the future?

Our activity space is a FREE self-led area for children to explore their inner creativity, be curious and MAKE!

Download the 'at home' activity sheet here.

..

Ein Tirlun dyluniwyd gan David Setter

Ardal hunan-arweiniad ar gyfer plant a’u teuluoedd i archwilio eu creadigrwydd mewnol yw ein gofod gweithgareddau.

Mae’r gosodiad a gynhyrchwyd gan y darlunydd lleol David Setter, yn darparu amgylchedd lle mae modd archwilio gorffennol, presennol a dyfodol ein hamgylchfyd hardd.

Mae hefyd yn clymu ynghyd y berthynas rhwng dyluniad adeilad Canolfan Grefft Rhuthun â Bryniau Clwyd.

Mae’r llinell amser yn dangos y newidiadau ecolegol dros y milenia. Dychmygwch pe bai mamothiaid blewog yn dal i grwydro ar drothwy eich drws! Sut fyddai hi pe bai llen enfawr o iâ neu gefnfor trofannol yn dal i orchuddio ein tirwedd? Pa fath o anifeiliaid fydden ni’n dod ar eu traws?

Dewch i archwilio’r presennol a dysgu ynglŷn â bywyd gwyllt a fflora (planhigion) sy’n byw yn ein tirlun.

Sut fedrwn ni ddiogelu ein hamgylchedd a sicrhau eu bod nhw dal yma yn y dyfodol?

Mae ein gofod gweithgareddau yn ardal AM DDIM, dan arweiniad plant, er mwyn iddyn nhw archwilio eu creadigrwydd mewnol. Byddwch yn chwilfrydig a GWNEWCH!

Lawrlwythwch y daflen weithgaredd 'gartref' yma.

....