....Beverley Bell-Hughes: Ceramic Portal Series..Beverley Bell-Hughes: Cyfres Porthol Serameg....
....17 January 2023 –..17 Ionawr 2023 –....
....Studio 6..Stiwdio 6....
....
A series of craft work in focus from Welsh ceramic makers
Series curation: Wendy Lawrence
Bev draws much of the inspiration for her ceramics from Conwy Morfa, a sandy beach and mussel bank in Conwy Bay, just 5 minutes’ drive from her home. Most days, in the late afternoon after a day of making (and under pressure from her dog Ben) she walks the sands there. She likes to visit the beach after the tide has gone out. The eddies and fissures left in the sand, along with beachcombed rocks and shells, all feed into her work. In fact, Bev’s ceramics are so much of the sea, they look as if they should smell salty. They are faithful to all her (and our) long-held memories of seashores, of rough elemental seas and the patterns left in sand by powerful tides. After seeing her ceramics, it can be no surprise that Bev prefers her muse – nature – to be a bit edgy: ‘I like going to the beach when the waves are quite strong. I love thunderstorms and I like huge waves. I like it when it’s raining as well and windy on the beach. I like it wild.’
Works are available to purchase.
..
Cyfres o waith crefft mewn ffocws gan wneuthurwyr serameg Cymreig
Curadur y gyfres: Wendy Lawrence
Daw ysbrydoliaeth Bev ar gyfer ei gwaith seramig o Forfa Conwy, traeth tywodlyd a thorlan cregyn gleision ym Mae Conwy, dim ond 5 munud yn y car o’i chartref. Yn amlach na pheidio, yn hwyr yn y prynhawn yn dilyn diwrnod o wneud (a than bwysau gan ei chi, Ben) bydd yn cerdded hyd y tywod yno. Bydd yn hoff o ymweld â’r traeth wedi i’r llanw fynd allan. Bydd y trolifau a’r craciau a adewir yn y tywod, ynghyd â cherrig a chregyn wedi’u cribinio, yn bwydo i mewn i’w gwaith.
Mae serameg Bev, mewn gwirionedd, yn ymwneud cymaint â’r môr, maen nhw’n edrych fel y dylen nhw arogli’n hallt. Maen nhw’n ffyddlon i’w holl atgofion hi (a ninnau) o lannau môr, o foroedd elfenaidd garw a’r patrymau a adewir mewn tywod gan lanwau pwerus. O weld ei chrochenwaith hi, nid yw’n syndod o gwbl fod yn well gan Bev i’w hawen – natur – fod braidd yn ysgythrog: ‘Rydw i’n hoff o fynd i’r traeth pan fydd y tonnau’n eithaf cryf. Rydw i wrth fy modd â stormydd taranau a thonnau enfawr. Rydw i’n hoff o’r glaw hefyd a’r gwynt ar y traeth. Rydw i’n ei hoffi’n wyllt.’
Mae’r gweithiau ar gael i’w prynu
....
….Associated Publications..Cyhoeddiadau Cysylltiedig….
....
A striking 32 page publication accompanies this exhibition. Produced in association with Crafts Study Centre, UCA Farnham, Angus Suttie captures the extraordinary vigour and energy of this celebrated artist.
32 pages, Softback
Full colour, 220x290mm
ISBN: 978-1-905865-93-2
Language: English
Publication date: April 2018
..
Mae yna gyhoeddiad trawiadol o 32 tudalen sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa hon. Wedi’i gynhyrchu ar y cyd â’r Crafts Study Centre, UCA Farnham, mae Angus Suttie yn cipio grym ac egni anghyffredin yr artist enwog hwn.
32 tudalen, Clawr meddal
Lliw llawn, 220x290mm
ISBN: 978-1-905865-93-2
Iaith: Saesneg
Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2018
....
....
A beautifully presented 124 page monograph by Amanda Fielding accompanies the exhibition.
124 pages, Softback
Full colour, 235x297mm
ISBN 978-1-905865-54-3
Language: English
Publication date: May 2013
..
Mae monograff hardd 124 tudalen gan Amanda Fielding yn cyd-fynd â’r arddangosfa.
124 tudalen, Clawr meddal
Lliw llawn, 235x297mm
ISBN 978-1-905865-54-3
Iaith: Saesneg
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013
....
....
A striking 32 page publication accompanies this exhibition. Produced in collaboration with the Victoria and Albert Museum Simon Carroll, Expressionist Potter captures the extraordinary vigour and energy of this celebrated artist.
32 pages, Softback
Full colour, 220x290mm
ISBN: 978-1-905865-69-7
Language: English
Publication date: February 2015
..
Mae’r cyhoeddiad trawiadol o 32 o dudalennau’n cyd-fynd â’r arddangosfa hon. Wedi’i gynhyrchu mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Victoria and Albert, mae Simon Carroll, Crochenydd Mynegiadol yn cipio grym ac egni’r artist enwog yma.
32 tudalen, Clawr caled
Lliw llawn, 220x290mm
ISBN: 978-1-905865-69-7
Iaith: Saesneg
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2015
....