peter_bodenham.jpg

....Peter Bodenham: Ceramic Portal Series..Peter Bodenham: Cyfres Porthol Serameg....

….Peter Bodenham: Ceramic Portal Series..Peter Bodenham: Cyfres Porthol Serameg….

….8 September – 20 November 2022..8 Medi – 20 Tachwedd 2022….

….Studio 6..Stiwdio 6….

….

A series of craft work in focus from Welsh ceramic makers

Series curation: Wendy Lawrence

Peter Bodenham trained in Ceramics in the mid 1980s at Camberwell School of Art. In the mid 1990s he completed an MA in Fine Art at Cardiff Metropolitan University. Peter lives near Cardigan in west Wales, where he runs St.Dogmaels Pottery. In 2011 he was the Gold Medal winner for Craft and Design at the National Eisteddfod of Wales. Underpinning Peter’s ceramic work is a research based practice exploring his locality, sense of place and the materiality of clay and glaze.

The ceramic wall vessels, shelves and pots were made in response to his local beach environment and the flotsam & jetsam found along the shoreline. His work playfully explores the tension between function, utility and fine art practice. Peter’s creative practice flows between undertaking beach cleans, studying the history, geology, botany, ecology of the coastal environment and then making ceramic utilitarian pots and sculptural vessels in response to his home environment. The use of local clays, motifs, gestural marks brushed or scratched into the surface of the pots can be seen as direct traces of his phenomenological experience of a site and place. The ceramic vessels represent both the beauty and pernicious nature of ocean plastic we find along our shores through the language of abstraction and clay.

All works available to purchase

..

Cyfres o waith crefft mewn ffocws gan wneuthurwyr serameg Cymreig
Curadur y gyfres: Wendy Lawrence

Hyfforddwyd Peter Bodenham mewn Cerameg yn Ysgol Gelf Camberwell yng nghanol y 1980au. Cwblhaodd gradd MA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yng nghanol y 1990au. Mae Peter yn byw ger Aberteifi, lle mae’n rhedeg Crochendy Llandudoch. Enillodd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011. Wrth wraidd gwaith cerameg Peter mae ymarfer wedi’i seilio ar ymchwil sy’n edrych ar ei fro, yr ymdeimlad o le a materoldeb clai a gwydredd.

Gwnaed y llestri wal, silffoedd a photiau cerameg mewn ymateb i amgylchedd ei draeth lleol ynghyd â’r broc môr sydd i’w canfod ar hyd y lan. Mae ei waith yn archwilio’n chwareus y tyndra hwnnw rhwng swyddogaeth, defnyddioldeb ac ymarfer celfyddyd gain. Mae ymarfer creadigol Peter yn llifo rhwng ymgymryd â glanhau’r traeth, astudio hanes, daeareg, botaneg ac ecoleg amgylchedd y glannau ac yna mae’n creu potiau cerameg at ddefnydd a llestri cerfluniol mewn ymateb i amgylchfyd ei gartref. Gellir ystyried y defnydd o gleiau lleol, motiffau, marciau amneidiol wedi’u brwsio neu grafu ar wyneb y potiau yn olion uniongyrchol o’i brofiad ffenomenolegol o leoliad. Drwy ieithwedd haniaeth a chlai mae’r llestri cerameg yn cynrychioli harddwch a natur niweidiol plastig y cefnfor rydym yn ei ganfod ar hyd ein glannau.

Mae’r gweithiau ar gael i’w prynu.

….


....

Associated Publications .. Cyhoeddiadau Cysylltiedig

....