....Drawing Parallels: Pauline Burbidge & Charles Poulsen..Arlunio Cyflinellau: Pauline Burbidge & Charles Poulsen....
....9 April – 10 July 2022..9 Ebrill – 10 Gorffennaf 2022....
....Gallery 1..Oriel 1....
....
Pauline Burbidge and Charlie Poulsen first exhibited their work together in 1993 at the Angel Row Gallery, Nottingham in Joining Forces. The same year, they married and moved from Nottingham to a steading in the Scottish Borders. There their combined energies have spent years creating a place in which to live and practice. Home, studio, garden, gallery: there is no division between one and other at Allanbank Mill Steading.
…‘Mornings are often dedicated to drawing.’ (PB) ‘I draw from winter to spring.’ (CP). Sketchbooks are essential, the start-point for work. Pauline’s studies are a form of visual thinking that is rooted in observation. Charlie’s seek to capture unseen energies and elements, with the representational consciously avoided even in his titling of work. Both use flattened, map-like, perspectives and scale up initial drawings to create artworks that envelop the viewer.
The increase in size physically immerses the artist in the work, shifting the pivot of movement from wrist to arm. Line is added to line, layer to layer. The engagement is total. This takes discipline, a requirement countered by a parallel desire for abandonment. ‘My work is very process driven. I play games with the grids I mark out in pencil. It can be like automatic drawing. It’s a constant battle between my more organised self and a desire to go a bit wild.’ (CP). ‘The double-sidedness of my quilts is important. I can’t resist showing the reverse. Sometimes I prefer it as the stitching is subconscious.’ (PB)
Curated by June Hill
..
Y tro cyntaf i Pauline Burbidge a Charlie Poulsen arddangos eu gwaith gyda’i gilydd oedd yn 1993 yn Oriel Angel Row, Nottingham yn ‘Joining Forces’. Yn yr un flwyddyn, fe wnaethon nhw briodi a symud o Nottingham i fferm ar Ororau’r Alban. Yno mae eu hegni cyfunol wedi treulio blynyddoedd yn creu lle i fyw ynddo ac i ymarfer. Cartref, stiwdio, gardd, oriel: nid oes yna unrhyw raniad rhwng un a’r llal yn Allanbank Mill Steading.
…‘Bydd boreau’n cael eu neilltuo’n aml i arlunio.’ (PB) ‘Byddaf yn arlunio o’r gaeaf i’r gwanwyn.’ (CP). Mae braslyfrau’n hanfodol, y man cychwyn ar gyfer gwaith. Mae astudiaethau Pauline yn ffurf ar feddwl gweledol sydd wedi’i wreiddio mewn arsylwi. Bydd Charlie’n ceisio cipio nerthoedd ac elfennau anweledig â’r cynrychioliadol wedi’i osgoi’n ymwybodol hyd yn oed yn ei ffordd o roi teitl i waith. Bydd y ddau’n defnyddio persbectifau wedi’u fflatio, fel map ac yn graddio darluniadau cychwynol i fyny i greu gweithiau celf sy’n amgau’r gwyliwr. Bydd y cynnydd mewn maint yn trochi’r artist yn gorfforol yn y gwaith, yn symud pifod y symudiad o’r garddwrn i’r fraich. Fe ychwanegir llinell at linell, haen at haen. Mae’r ymgysylltiad yn llwyr. Bydd hyn yn golygu disgyblaeth, gofyniad, a wrthdroir gan ddymuniad paralel i hepgor. ‘Mae fy ngwaith i’n cael ei yrru gan broses. Byddaf yn chwarae gemau â’r gridiau y byddaf yn eu marcio mewn pensil. Gall fod fel arlunio awtomatig. Caiff fy ngwaith i ei yrru i raddau helaeth gan broses. Mae’n frwydr gyson rhwng fy hunan i sy’n fwy trefnus a dymuniad i fod braidd yn wyllt.’ (CP). ‘Mae’r elfen ddwyochrog o’m cwiltiau i’n bwysig. Allaf i ddim peidio â dangos y cefn. Weithiau mae’n well gen i o gan fod y pwytho’n isymwybodol.’ (PB)
Curadwyd gan June Hill
....