….Iwan Gwyn Parry: On The Wall..Iwan Gwyn Parry: Ar Wal….
….27 September –..27 Medi –….
….Courtyard Project Spaces A & B..Gofodau Prosiect Cwrt A a B….
….
A series of crafted fine art by north Wales artists
Series curation: Jonathan Le Vay
Reflections on the residency at Cill Rialaig, Co. Kerry
The experience of the Residency is still raw and surreal for me even after a month of returning home if I’m honest, and raw isn’t too strong a term to describe the experience. A great deal of the experience doesn’t make sense to me and to me still as time baffles the memory and creates its own understanding of things.
I was alone with very little or no means of communicating with the outside world.
“Raw” in the sense of attempting to naturally contextualise the experience, what it meant being out literally on a limb, as far West as one can arrive at. One literally cuts one’s own path to arrive there, so to speak! One was surrounded by sea, sky and the crooked roads of the famine.
Hooded crows were ever present as a local source of curiosity, but beyond that, there was very little sign of civilization.
There was only the horizon and the distant islands.
It was soulful and daunting to be enveloped in its grandeur. Nothing can prepare one for the time and space being so removed provides.
It’s become a place of deep contemplation, personal reflection and solace. It was profoundly moving for me.
Never have I felt such isolation.
It was a beautiful space to arrive at and co-exist with its silence, its epic atmosphere and limitless seduction of the senses.
The landscape was bathed in light at the moment of arrival and a dark, misty gloom when I departed.
Works available to purchase.
..
Cyfres o gelfyddyd gain wedi’i saernïo gan artistiaid Gogledd Cymru
Curadur y gyfres: Jonathan Le Vay
Myfyrdodau ar y preswyliad yn Cill Rialaig, Contae Chiarrai
A dweud y gwir mae profiad y preswyliad dal yn amrwd a swrreal i mi, hyd yn oed mis ar ôl i mi ddychwelyd adref. Ac nid yw amrwd yn air rhy gryf i ddisgrifio’r profiad chwaith. Nid yw llawer o’r profiad yn gwneud fawr o synnwyr i mi gan fod amser yn drysu’r cof ac yn creu ei ddealltwriaeth ei hun o bethau.
Roeddwn i ar ben fy hun gyda fawr ddim modd o gysylltu â’r byd tu allan.
“Amrwd” yn yr ystyr o geisio rhoi cyd-destun naturiol i’r profiad, beth oedd yn ei olygu’n llythrennol i fod ar eich pen eich hun, cyn belled i’r Gorllewin ag y mae modd cyrraedd. Mae rhywun fel petai’n llythrennol yn torri ei gwys ei hun i gyrraedd yno! Roedd rhywun wedi cael ei amgylchynu gan fôr, awyr a llwybrau cam y newyn.
Roedd brain llwydion yn hollbresennol ac yn destun chwilfrydedd lleol, ond tu hwnt i hynny ychydig oedd yr arwyddion o wareiddiad. Dim ond y gorwel a’r ynysoedd yn y pellter.
Roedd yn fy amgáu gan ei fawredd ac yn codi braw ac arswyd. Ni all ddim byd eich paratoi ar gyfer yr amser a’r gofod mae bod mor ynysig yn ei roi.
Daeth yn lle o feddwl dwys, synfyfyrio personol a chysur. Roedd yn hollol wefreiddiol i mi. Nid wyf erioed wedi profi’r fath ymdeimlad o gael fy ynysu.
Roedd hi’n fangre godidog i’w chyrraedd a chydfyw â’i thawelwch, ei hawyrgylch aruthrol gyda hudoliaeth ddiderfyn i’r synhwyrau.
Wrth gyrraedd roedd y tirlun wedi’i drochi mewn goleuni ac wrth ymadael roedd mewn mwrllwch tywyll, niwlog.
Mae’r gweithiau ar gael i’w prynu.
….