....Billy Adams: Ceramic Portal Series..Billy Adams: Cyfres Porthol Serameg....
....9 April – 22 May 2022..9 Ebrill – 22 Mai 2022....
....Studio 6..Stiwdio 6....
....
A series of craft work in focus from Welsh ceramic makers
Series curation: Wendy Lawrence
“I prefer to stay within the realms of the vessel format, yet allow them to take on a distinctive sculptural identity. Rims, handles, form and balance are commonplace within traditional ceramics, yet I place them in a unique integrated structure which elevates them beyond their own identifiable function and so gives then another meaning. Their conclusive forms are recognised as jugs, bowls and vessels, yet they represent profound arguments concerning issues of an individual’s perception and memory of an ever-changing landscape.”
The majority of my pieces are hand built using a slabbing technique instead of coils, and each incorporate some type of thrown element. The thrown element is usually the base or the incorporated rings.
I include the thrown elements for two reasons: the first is that I actually enjoy throwing, but I cannot capture (on the wheel) the nature of my source and the surfaces I want to depict. The second reason is that the incorporation of a smooth gold ring into some of my work, highlights the surfaces of the form and works as a binary opposite to the whole piece.
Each piece of work is fired between four and five times. After the standard bisquit firing, I apply a 1280 glaze and follow it up with a 1100 glaze firing, then a 1040 glaze firing, eventually ending with a 795-lustre firing. After the glazes are sprayed on, they are directionally rubbed off, to highlight the subtleties of the surface texture. Following this, the same glazing process is repeated to build up a rich vocabulary of tones and colours. The result is a unique surface, which is characteristic in all my ceramic forms.
All works available to purchase
..
Cyfres o waith crefft mewn ffocws gan wneuthurwyr serameg Cymreig
Curadur y gyfres: Wendy Lawrence
“Mae’n well gen i aros o fewn cylchoedd fformat y llestr, ond eto’n caniatáu iddyn nhw fabwysiadu hunaniaeth gerfluniol nodedig. Bydd ymylon, handlenni, ffurf a chydbwysedd yn gyffredin mewn serameg draddodiadol, er hynny byddaf yn eu gosod mewn strwythur integredig unigryw sy’n eu dyrchafu y tu hwnt i’w swyddogaeth ganfyddadwy eu hunain ac felly’n rhoi iddyn nhw ystyr arall. Fe gydnabyddir eu ffurfiau terfynol fel jygiau, powlenni a llestri, er hynny y maen nhw’n cynrychioli dadleuon dwys ynglŷn â materion cysyniad unigolyn ac atgof o dirwedd sy’n fythol gyfnewidiol.”
Mae mwyafrif fy narnau i wedi’u llunio â llaw gan ddefnyddio dulliau slabio yn hytrach na choiliau, a phob un yn ymgorffori rhyw fath o elfen dafledig. Fel rheol yr elfen dafledig yw’r gwaelod neu’r cylchoedd sydd wedi’u hymgorffori.
Byddaf yn cynnwys yr elfennau tafledig am ddau reswm: y cyntaf yw fy mod i mewn gwirionedd yn mwynhau taflu, ond ni allaf gipio (ar yr olwyn) natur fy ffynhonnell a’r arwynebau yr wyf am eu darlunio. Yr ail reswm yw bod ymgorffori modrwy aur lefn mewn peth o’m gwaith i, yn amlygu arwynebau’r ffurf ac yn gweithio fel gwrthwyneb deuaidd i’r darn cyfan.
Bydd pob darn o waith yn cael ei danio rhwng pedair a phum gwaith. Yn dilyn y taniad ‘bisquit ‘safonol, byddaf yn defnyddio gwydredd 1280 ac yn dilyn hynny â thaniad gwydredd 1100 , yna taniad gwydredd 1040, a diweddu yn y man â thaniad gloywedd 795. Wedi i’r gwydreddau gael eu chwistrellu, cânt eu rhwbio i ffwrdd yn gyfeiriadol i amlygu craffterau gweadedd yr arwyneb.Yn dilyn hyn, fe ailadroddir yr un broses o wydreddu i adeiladu geirfa gyfoethog o arlliwiau a lliwiau. Y canlyniad yw arwyneb unigryw, sy’n nodweddiadol yn holl ffurfiau fy serameg i.
Mae’r gweithiau ar gael i’w prynu
....