ChrisBirdJones_05_FOG27.jpg

Chris Bird-Jones

....Chris Bird-Jones: we are all fragile..Chris Bird-Jones: rydym i gyd yn fregus....

....15 January – 3 April 2022..15 Ionawr – 3 Ebrill 2022....

....Gallery 2..Oriel 2....

....

The ideas for ‘Silver Spoons’ started to germinate during a Creative Wales Ambassador residency in Hawaii in 2015 and in residence at Ruthin the following year. Over the next few years my fascination with the universality of the spoon and how we all connect with it throughout our lives led me to research further, listen to peoples stories and play with spoons. The spoon shape, with bowl head and body handle, can reference human form and being made from fragile glass echo our condition – rydym i gyd yn fregus, we are all fragile. The ‘Seven Silver Spoons’ are made from blown glass, are hollow and mirrored on the inside, we catch glimpses of ourselves in the reflective surfaces. They feel good to hold and cradle, gently but firmly securing the weight and fragility of each piece. When just being, each spoon has their own hand-crafted box to rest on or within. In the exhibition these pieces are surrounded by the ambient rhythmic sound created with glass play in ‘Silver Lined’ a film that lulls the room and senses.

‘Juicy Spoons’ are coming too with their curvilinear shapes and rainbow colours. There is an energy within these individual transparent pieces interacting freely with the light – they are colourful individuals, fruity and fun. Other pieces include the lofty ‘Long handled spoon to sup with the devil’, the suspended silent ‘Witness’ gently rotating on the breeze, capturing all, ‘Twins’ curling together, ‘One’ and the series ‘Circles’ of hand formed molten glass. I’m excited to bring my family of Silver Spoons and their friends to Ruthin.

Originally from Llangollen, Chris is a Swansea based artist who works primarily, though not exclusively, with glass. Having studied at Swansea School of Art and the Royal College of Art, her professional practice has encompassed architectural commissions, international collaborations, community initiatives and a raft of exhibitions. As well as leading academic glass courses at Wrexham, Wolverhampton and Swansea, Chris has lectured and mentored far and wide. Being awarded a coveted Creative Wales Ambassador Award a few years ago afforded Chris time to explore ideas and processes that have long shaped her work.

..

Fe ddechreuodd y syniadau ar gyfer ‘Llwyau Arian’ egino yn ystod preswyliad llysgennad Cymru Greadigol yn Hawaii yn 2015 ac mewn preswyliad yn Rhuthun y flwyddyn ddilynol. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf fe arweiniodd fy nghyfaredd i â chyffredinolrwydd y llwy a’r ffordd y byddwn ni i gyd yn cysylltu â hi drwy gydol ein bywydau at ymchwil pellach, gwrando ar straeon pobl a chwarae â llwyau. Gall y siâp llwy, â phen powlen a handlen corff, gyfeirnodi ffurf ddynol ac o fod wedi’i wneud o wydr bregus gall adleisio ein cyflwr ni – rydyn ni gyd yn fregus. Mae’r ‘Saith Llwy Arian’ wedi’u gwneud o wydr chwyth, maen nhw’n wag ac â drychau ar y tu mewn. Byddwn yn cael cipolwg arnom ni ein hunain yn yr arwynebau adlewyrchol. Mae cydio ynddyn nhw a’u crudo teimlo’n dda, gan ddiogelu’n dyner bwysau a breuder pob darn. Pan fyddan nhw ond yn bod bydd gan bob llwy eu bocs eu hunain wedi’u llunio â llaw i orffwys arno neu o’i fewn. Yn yr arddangosfa mae’r darnau hyn wedi’u hamgylchynu gan y sain rythmig amgylchynol a grëir â chwarae gwydr yn ‘Silver Lined’ sef ffilm sy’n suo’r ystafell a’r synhwyrau.

Mae ‘Juicy Spoons’ yn dod hefyd â’u siapiau cromlinog a’u lliwiau enfys. Mae yna egni o fewn y darnau tryloyw unigol hyn sy’n rhyngweithio’n rhwydd â’r golau – maen nhw’n unigolion lliwgar, yn ffrwythus ac yn hwyl. Mae darnau eraill yn cynnwys y ‘Llwy handlen hir arddunol i lymeitian â’r diafol’, y ‘Tystion’ tawel crog yn cylchdroi yn yr awel, yn cipio popeth, ‘Gefeilliaid’ yn cyrlio gyda’i gilydd ‘Un’ a’r gyfres ‘Cylchoedd’ o wydr tawdd wedi’u ffurfio â llaw. Mae’n gyffrous i mi ddod â’m teulu o Lwyau Arian a’u ffrindiau i Ruthun.

Yn wreiddiol o Llangollen, artist sy’n byw yn Abertawe yw Chris sy’n gweithio’n bennaf, er nid yn unig, gyda gwydr. A hithau wedi astudio yn Ysgol Gelf Abertawe a’r Coleg Celf Brenhinol, mae ei gwaith proffesiynol wedi cwmpasu comisiynau pensaernïol, prosiectau cydweithredol rhyngwladol, mentrau cymunedol a sawl arddangosfa. Yn ogystal ag arwain cyrsiau gwydr academaidd yn Wrecsam, Wolverhampton ac Abertawe, mae Chris wedi darlithio a mentora ym mhob cwr. Yn sgil derbyn un o Ddyfarniadau mawr eu bri Llysgennad Cymru Greadigol ychydig flynyddoedd yn ôl cafodd Chris amser i edrych ar syniadau a phrosesau sydd wedi siapio ei gwaith dros amser maith.

....