….Helen Yardley: Drawings for Floors..Helen Yardley: Darluniau Lloriau….
….1 October 2022 – 8 January 2023..1 Hydref 2022 – 8 Ionawr 2023….
….Gallery 1, 2 & 3..Oriel 1, 2 & 3….
….Helen Yardley is a designer of experience and excellence known primarily for her rug designs. In 2023 she celebrates having been at the top of her game for 40 years. A solo exhibition across all three galleries at Ruthin Craft Centre is an apt marker for this. The exhibition will showcase her tufted, flatweave and hand-knotted rugs, her lesser-seen acoustic felt pieces and some new Dalles de verre glass work.
The title of the exhibition reflects Helen’s very personal process: ‘Drawings for floors are what I make, drawings with colour, in wool, that sit on the floor. I choose to say “drawings” rather than paintings although I obviously use paint. Paint is not the essential element. The paint just happens to be what holds the colour. I make images with shapes that are hard edged, elemental, abstract and resonant of other things. The shapes rest against each other, relate to each other and are firmly defined so to me they are drawn.’
Most of Helen’s work is by commission and most commissions come from architects. Commissions are her happy place, she enjoys the challenge of being taken her out of her comfort zone. It’s very much a collaborative process and she much prefers a decisive client who she’s happy to work with. Her rugs work very well in different colourways, always a sign of strong design. And Helen’s functional (even practical) way with a rug design is perhaps her greatest asset. It has seen her weather many trends and fashions in rugs. And it has allowed her to come out the other end of 40 years in business not only smiling but looking towards the next challenge, too.
..
Mae Helen Yardley yn ddylunydd rhagorol sy’n brofiadol iawn. Caiff ei hadnabod yn bennaf am ei dyluniadau o rygiau. Yn 2023 mae hi’n dathlu 40 mlynedd o fod yn feistres ar ei chrefft. Yn briodol iawn nodir hwn gan sioe unigol yn y tair oriel yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.
Bydd yr arddangosfa’n rhoi llwyfan i’w rygiau cudynnog, gwead gwastad a chwlwm llaw , ei darnau ffelt acwstig llai adnabyddus a pheth gwaith gwydr dalle de verre. Mae teitl y sioe yn adlewyrchu proses personol iawn Helen: ‘Darluniau ar gyfer lloriau, dyna rwy’n eu gwneud, darluniau gyda lliw, mewn gwlân, sy’n gorwedd ar lawr. Rwy’n dewis dweud “darluniau” yn hytrach na phaentiadau er yn amlwg rwy’n defnyddio paent. Nid yw paent yn elfen hanfodol. Dim ond digwydd bod yn dal y lliw y mae’r paent. Rwy’n creu delweddau gyda siapiau caledlin, elfennol, haniaethol sy’n atseinio o bethau eraill. Mae’r siapiau yn gorwedd yn erbyn ei gilydd, mewn perthynas â’i gilydd ac wedi’u diffinio’n gadarn ac felly, i mi, maen nhw wedi’u darlunio.’
Deillia’r rhan fwyaf o waith Helen drwy gomisiwn a daw’r mwyafrif o’r comisiynau oddi wrth benseiri. Ei man hapus yw comisiynau – mae’n mwynhau’r her o gael ei chymryd allan o’i man cysurus. Yn y bôn, mae’n broses gydweithredol ac mae’n well ganddi gleient pendant ei farn sy’n hapus i weithio gyda hi. Mae ei rygiau’n gweithio’n dda iawn mewn cyfuniadau lliw gwahanol, sy’n arwydd o ddylunio cadarn. Hwyrach mai dull ‘at ddefnydd’ Helen (dull ymarferol hyd yn oed) o ddylunio rygiau yw ei mantais fwyaf. Mae hynny wedi’i galluogi i oresgyn cynifer o chwiwiau a ffasiynau mewn rygiau. Ac mae wedi ei chaniatáu i oroesi wedi 40 mlynedd yn y busnes nid yn unig yn gwenu ond yn edrych ymlaen at yr her nesaf.
….