....Jeremy Yates VPRCA: On The Wall..Jeremy Yates VPRCA: Ar Wal....
....3 August – 11 September 2022..3 Awst – 11 Medi 2022....
....Courtyard Project Spaces A & B..Gofodau Prosiect….
....
A series of crafted fine art by north Wales artists
Series curation: Jonathan Le Vay
I have been drawing and painting in North Wales for many years, and find myself returning to familiar subjects more and more – mountains, rivers, woodlands – using different approaches and on a different scale. My use of acrylic paint goes back to my student days in the 1960s, but never consistently on paper, board or canvas of this size. Recently I have had the opportunity to show work that reflects the extent or majesty of the landscape.
After our two or more years of restrictions – limits on travel and other freedoms – with the current ability to return to the outdoors to draw and paint the spaces and nature, I am coming back to these in reality and as subject matter. Nature had a short time to breathe and to recuperate, but now has to put up with human incursion once more, with its noise, fumes, plastic and waste pollution. These works are a reminder to myself, and anyone else who might stop and look for a moment, to take a little more care of what we are losing. I realize that even my use of plastic (acrylic) paint is part of this dilemma – in our thoughtlessness we are destroying our precious environment and everything we hold dearest and should strive to protect.
..
Cyfres o gelfyddyd gain wedi’i saernïo gan artistiaid Gogledd Cymru
Curadur y gyfres: Jonathan Le Vay
Rwyf wedi bod yn arlunio a phaentio yng Ngogledd Cymru am flynyddoedd lawer ac wrth ddefnyddio dulliau a meintiau gwahanol yn cael fy hun yn dychwelyd fwyfwy i destunau cyfarwydd – mynyddoedd, afonydd, coedlannau. Pan yn fyfyriwr yn y 1960au roeddwn yn defnyddio paent acrylig ond nid yn gyson ar bapur, bwrdd na chanfas o’r maint hwn. Yn ddiweddar rwyf wedi cael cyfle i ddangos gwaith sy’n adlewyrchu helaethrwydd neu fawredd y dirwedd.
Yn dilyn ein dwy flynedd neu fwy o gyfyngiadau ar deithio a rhyddid a’r gallu diweddar i ddychwelyd i’r awyr agored er mwyn arlunio a phaentio’r gofodau a natur yn y byd go iawn, at y testun hwn rwy’n dychwelyd. Cafodd natur amser byr i anadlu ac ymadfer ond bellach mae’n gorfod goddef ymyrraeth dyn a’i lygredd o sŵn, mwg, plastig a gwastraff unwaith eto. Mae’r gweithiau hyn yn bethau i f’atgoffa ac eraill, a fydd efallai yn pwyllo a syllu am ennyd, i gymryd ychydig mwy o ofal o’r hyn rydyn ni’n ei golli. Rwy’n sylweddoli bod fy nefnydd o baent plastig (acrylig) yn rhan o’r dilema hwn – yn ein difaterwch rydyn ni’n dinistrio ein hamgylchfyd gwerthfawr a phob dim sy’n annwyl i ni y dylwn ymdrechu i’w diogelu.
....