....Kim Dewsbury & Gerald Dewsbury: On The Wall..Kim Dewsbury & Gerald Dewsbury: Ar Wal....
....9 April – 8 May 2022..9 Ebrill – 8 Mai 2022....
....Courtyard Project Spaces A & B..Gofodau Prosiect Cwrt A a B....
….
A series of crafted fine art by north Wales artists
Series curation: Jonathan Le Vay
Over the last decade Kim has returned to her passion for painting, after spending several years organising and curating exhibitions in North Wales. From Cornwall originally, but raised in the Midlands, Kim returned to Falmouth in 1975 to study Fine Art. Married to the painter Gerald Dewsbury, Llangwm in North Wales has been their home for many years.
Kim is really excited by all the possibilities opening up again in her painting – it is primarily an exploration of what she sees in front of her, and while enjoying the physical properties of paint she aims to give a solidity and reality to her subject matter – and a significance to objects and ideas which form the work.
“Inspired by my rural surroundings – I value that first hand contact with nature; my sketchbooks are filled with walks, insects, clouds, natural ephemera, etc. Patterns and textures fascinate: the velvety skin of a peach, the undulating folds of a distant hillside, the patina of a well thumbed book. Everything has a story to tell”.
Kim has exhibited widely in the past – including Royal Academy Summer Shows, Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Tabernacl, Machynlleth, John Noott, Broadway, Twenty Twenty, Ludlow and Falmouth Art Gallery to name a few. In 2013 Kim was selected as the winner of the North Wales Open at Clwyd Theatr Cymru in Mold. Kim now exhibits regularly at Ffin y Parc in Llanrwst. The work exhibited here is a selection of work produced over the last ten years.
Born in Dartford, Kent in 1957, Gerald Dewsbury moved to Nottinghamshire in 1959 and spent the majority of his formative years roaming its comparatively mild countryside and developing an intimate interest in all its aspects.
Following a Foundation Course at Mansfield College of Art, Gerald then pursued a BA Degree Course at Falmouth School of Art in Cornwall. While at Falmouth he was selected to exhibit in the Stowells Trophy Exhibition held at the Royal Academy and also for the David Murray Scholarship for landscape painting; Gerald graduated in 1980.
After leaving college Gerald pursued his vocation and career as an Artist and moved to North Wales in search of a wilder and more varied landscape. He has since exhibited his work in many galleries in both Wales and England.
In 1989 Gerald Dewsbury was the joint winner in the National Eisteddfod Exhibition. He has since won many prizes, including the Biennial Open at the Grosvenor Museum, Chester, where his painting was purchased by the Museum for their collection.
Gerald also has work in the collection of the ‘National Society for Contemporary Art in Wales’, and in 2002 and 2018 works were bought for the collection of ‘Museum of Modern Art, Wales’. In March 2003 Gerald was elected as a member of the Royal Cambrian Academy. Gerald exhibits regularly at Ffin y Parc in Llanrwst, The Lion Street Gallery in Hay on Wye and at the Twenty Twenty Gallery in Ludlow.
Gerald has work in numerous private collections, and regularly works to commission; a series of six landscapes was completed in 2005 for the Sultan of Oman, commissioned for the new Palace in Muscat.
“I now live in Llangwm (Sir Conwy) in the shadow of Foel Goch, surrounded by a landscape that I have painted for the last 35 years – a landscape I have come to love and intimately know. My subject matter comes primarily from the landscape and the myriad of minutiae that are found within it. I am not just interested in the broad aspect of what I see, nor in just capturing the ‘essence’ of a place. A molehill can fascinate as much as a mountain; roots, stones, branches etc can take on a life of their own, and certain places draw me back again and again as there is always something new to discover and paint.”
..
Cyfres o gelfyddyd gain wedi’i saernïo gan artistiaid Gogledd Cymru
Curadur y gyfres: Jonathan Le Vay
Dros y ddegawd ddiwethaf mae Kim wedi dychwelyd at ei hangerdd am beintio, ar ôl treulio sawl blwyddyn yn trefnu a churadu arddangosfeydd yng Ngogledd Cymru. Yn un o Gernyw’n wreiddiol, ond wedi’i magu yn y Midlands, fe ddychwelodd Kim i Falmouth yn 1975 i astudio Celfyddyd Gain. Wedi priodi â’r arlunydd Gerald Dewsbury, Llangwm yng Ngogledd Cymru sydd wedi bod yn gartref iddyn nhw am flynyddoedd lawer. Mae Kim yn llawn cyffro gyda’r holl bosibiliadau sy’n dod i’w rhan eto yn ei phaentiadau – yn bennaf mae’n archwiliad o’r hyn y bydd yn ei weld o’i blaen. Wrth fwynhau priodweddau ffisegol paent, ei nod yw rhoi cadernid a realaeth i’w thestun – ac arwyddocâd i wrthrychau a syniadau sy’n ffurfio’r gwaith.
“Wedi fy ysbrydoli gan fy amgylchoedd gwledig – byddaf yn gwerthfawrogi’r cysylltiad cyntaf hwnnw â natur; mae fy llyfrau braslunio’n llawn o lwybrau, pryfed, cymylau, effemera naturiol, etc. Bydd patrymau a gweadeddau’n hudo: croen melfedaidd eirinen wlanog, plygiadau tonnog llechwedd bell, patina llyfr sydd wedi’i fodio’n dda. Mae gan bopeth stori i’w dweud”.
Mae Kim wedi arddangos ei gwaith yn eang yn y gorffennol – gan gynnwys Sioeau Haf yr Academi Frenhinol, Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Tabernacl, Machynlleth, John Noott, Broadway, Twenty Twenty, Llwydlo ac Oriel Gelf Falmouth i enwi dim ond rhai. Yn 2013 dewiswyd Kim fel enillydd Pencampwriaeth Agored Gogledd Cymru yn Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug.
Mae Kim bellach yn arddangos yn rheolaidd yn Ffin y Parc yn Llanrwst.
Mae’r gwaith a arddangosir yma yn ddetholiad o gwaith a gynhyrchwyd dros y deng mlynedd diwethaf.
Wedi’i eni yn Dartford, Swydd Caint yn 1957, fe symudodd Gerald Dewsbury i Swydd Nottingham yn 1959 ac fe dreuliodd fwyafrif ei flynyddoedd ffurfiannol yn crwydro ei chefn gwlad cymharol fwyn ac yn datblygu diddordeb agos yn ei holl agweddau.
Wedi iddo ddilyn Cwrs Sylfaen yng Ngholeg Celf Mansfield, fe ddilynodd Gerald Gwrs Gradd BA yng Ngholeg Celf Falmouth yng Nghernyw. Pan oedd yn Falmouth fe’i dewiswyd i arddangos yn Arddangosfa Stowells Trophy a gynhaliwyd yn yr Academi Frenhinol a hefyd ar gyfer Ysgoloriaeth David Murray am arlunio tirlun; Fe raddiodd Gerald yn 1980.
Wedi iddo adael y coleg fe ddilynodd Gerald ei alwedigaeth fel Artist ac fe symudodd i Ogledd Cymru i chwilio am dirwedd wylltach a mwy amrywiol. Ers hynny mae wedi arddangos ei waith mewn llawer o orielau yng Nghymru a Lloegr.
Yn 1989 Gerald Dewsbury oedd y cyd-enillydd yn Arddangosfa’r Eisteddfod Genedlaethol. Ers hynny mae wedi ennill llawer o wobrau, yn cynnwys y ‘Biennial Open’ yn Amgueddfa Grosvenor, Caer, lle cafodd ei baentiad ei brynu gan yr Amgueddfa ar gyfer eu casgliad. Mae Gerald â gwaith hefyd yng nghasgliad y ‘National Society for Contemporary Art in Wales’, ac yn 2002 a 2018 fe brynwyd gweithiau ar gyfer casgliad ‘Amgueddfa Celfyddyd Fodern, Cymru.’ Ym Mawrth 2003 cafodd Gerald ei ethol yn aelod o’r ‘Royal Cambrian Academy’.
Bydd Gerald yn arddangos yn rheolaidd yn Ffin y Parc yn Llanrwst, Oriel Lion Street yn Y Gelli ac yn Oriel ‘Twenty Twenty’ yn Llwydlo.
Mae Gerald â gwaith mewn casgliadau preifat niferus, bydd yn gweithio’n rheolaidd i gomisiynau; fe gwblhawyd cyfres o chwech o dirluniau yn 2005 ar gyfer Swltan Oman, wedi’i gomisiynu ar gyfer y Palas newydd ym Muscat.
“Rwy’n awr yn gweithio yn Llangwm (Sir Conwy) yng nghysgod y Foel Goch, wedi fy amgylchynu â thirwedd y bûm yn ei harlunio am y 35 mlynedd ddiwethaf – tirwedd yr wyf wedi dod i’w charu ac i’w hadnabod yn bersonol. Daw fy nhestunau’n bennaf o’r dirwedd a’r myrdd o fanylion sydd i’w cael o’i mewn. Mae fy niddordeb i nid dim ond yn yr agwedd eang o’r hyn rwy’n ei weld, na dim ond cipio ‘hanfod’ lle. Gall twmpath twrch daear swyno cymaint ag y gall mynydd; gall gwreiddiau, cerrig, canghennau etc. fabwysiadu eu bywyd eu hunain, a bydd mannau arbennig yn fy nhynnu’n ôl eto ac eto gan fod yna rywbeth newydd i’w ddarganfod a’i arlunio bob amser.”
....