4M2A9195.jpg

....Wendy Lawrence : A Journey in Clay..Wendy Lawrence : Taith mewn Clai....

....Wendy Lawrence : A Journey in Clay..Wendy Lawrence : Taith mewn Clai....

....30 June – 17 July 2021..30 Mehefin – 17 Gorffennaf 2021....

....Gallery 3..Oriel 3....

....

Wendy Lawrence was recently involved in our engagement and learning programme sharing her enthusiasm for Clay through digital demonstrations, studio tours and workshops over the recent Craft Council’s Hey Craft! Weekend. This short exhibition is an opportunity to now experience her ceramic works in the gallery space for yourself.

Wendy’s ongoing delight in texture and surface is key to her oeuvre. Her ideas develop from geological investigation into natural forms found in the landscape and man’s influence on that through the study of archeological sites. Continuous ongoing research and development of new forms, increasing the scale of work, and investigating new surfaces, glazes, engobes and oxides, is all part of her ongoing journey in clay.

Wendy has worked steadily in her studio in Denbigh for over twenty years. She is an active member of North Wales Potters and has participated in many clay events and demonstrations. These range from The International Ceramic Festival in Aberystwyth to Clay Art in Wales, and many events throughout the UK and beyond – including Art in Clay at Hatfield, Earth and Fire at Rufford, the prestigious CAL Ceramic Art London at the Royal College of Art. She has exhibited internationally and Ruthin Craft Centre has shown her work over many years including at SOFA Chicago.

Works are available to purchase

..

Roedd Wendy Lawrence yn ymglymedig â’n rhaglen ymgysylltu a dysgu gan rannu ei brwdfrydedd am Glai drwy arddangosiadau digidol, teithiau tywys o’r stiwdio a gweithdai yn ystod Penwythnos ddiweddar ‘Hey Craft!’ y Cyngor Crefftau. Mae’r arddangosfa fer hon yn gyfle’n awr i brofi drosoch eich hun ei gweithiau serameg yng ngofod yr oriel.

Mae mwyniant parhaus Wendy mewn gweadedd ac arwyneb yn allweddol i’w ‘oeuvre’. Bydd ei syniadau’n datblygu o ymchwiliad daearegol i ffurfiau naturiol a geir yn y dirwedd a dylanwad dyn ar hynny drwy astudiaeth o safleoedd archeolegol. Mae ymchwil cyfredol parhaus a datblygiad ffurfiau newydd, cynyddu graddfa gwaith, ac ymchwilio arwynebau, gwydreddau, ‘engobes’ ac ocsidau, i gyd yn rhan o’i thaith barhaus mewn clai.

Mae Wendy wedi gweithio’n gyson yn ei stiwdio yn Ninbych am ugain mlynedd a mwy. Mae’n aelod gweithgar o’r ‘North Wales Potters’ ac mae wedi cyfranogi mewn llawer o ddigwyddiadau ac arddangosiadau clai. Mae’r rhain yn amrywio o’r ‘International Ceramic Festival’ yn Aberystwyth i ‘Gelfyddyd Clai’ yng Nghymru, a llawer o ddigwyddiadau ledled y DU a thu hwnt – yn cynnwys ‘Art in Clay’ yn Hatfield, ‘Earth and Fire’ yn Rufford, y ‘CAL Ceramic Art London’ mawreddog yn y Coleg Celf Brenhinol. Mae wedi arddangos yn rhyngwladol ac mae Canolfan Grefft Rhuthun wedi dangos ei gwaith am flynyddoedd lawer yn cynnwys yn ‘SOFA’ Chicago.

Mae’r gweithiau ar gael i’w prynu

....