….Daniel Boyle: Ceramic Portal Series..Daniel Boyle: Cyfres Porthol Serameg….
….20 November – 20 February..20 Tachwedd – 20 Chwefror….
….Studio 6..Stiwdio 6….
….
A new series of craft work in focus from Welsh ceramic makers
Series curation: Wendy Lawrence
“My work consists mostly of wheel thrown forms – simple and functional, sometimes slab built or thrown and assembled, shapes developed to combine with my glazing techniques. Using salt and ash glazed stoneware I explore unconventional firing processes, experimenting and developing my combination of purpose built and re-cycled kilns. At the moment I am firing a radically modified 1970’s Cromartie electric kiln, now with gas, pushing the boundaries of traditional industrial salt glaze to enrich my pots. Vibrant slips and ash glazes are applied in multiple layers to encourage the firing process to leave their mark on the ware. During the firing process textures and movement happen within the fluid glaze, producing unique and complex flowing, textured and feathered glazes to be explored beyond their surface. Every firing has an element of unpredictability as the boundaries of the materials are pushed to their limits, seconds are minimised but accepted within this process – with every kiln opening successes are counterbalanced with the occasional failure.
Exhibiting widely across the UK and Europe, I attend many ceramic shows, events and symposiums where I enjoys being part of an international community of potters. I also serve as a director of the International Ceramics Festival, held biannually in Aberystwyth. Recent projects have included completing two architectural ceramics commissions making a salt glazed shop fascia and interior for a restaurant in Fulham – producing a modern interpretation on the areas historical link with salt glazing.
I graduated from the Harrow Studio Ceramics course in 1991 and then had a shared workspace space at Kate Malone’s Balls Pond studios in London before returning to work as a technician and studio manager on the Harrow ceramics course. In 1997 I moved to West Wales to set up a studio on a smallholding where I have continued to develop my work and firings for the past 23 years.”
All works available to purchase
..
Cyfres newydd o waith crefft mewn ffocws gan wneuthurwyr serameg Cymreig
Curadur y gyfres: Wendy Lawrence
“Mae fy ngwaith i, gan fwyaf, yn cynnwys ffurfiau olwyn a daflwyd – syml a swyddogaethol, weithiau o adeilad slab neu wedi’u llunio a’u cydosod, siapiau wedi’u datblygu i gyfuno â’m dulliau gwydro i. Gan ddefnyddio crochenwaith wedi’i wydro â halen a llwch byddaf yn archwilio prosesau tanion anghonfensiynol, yn arbrofi ac yn datblygu fy nghyfuniad i o odynau sydd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol a rhai wedi’u hailgylchu. Ar hyn o bryd rwy’n tanio odyn trydan Cromaterie y 1970au sydd wedi’i addasu’n radical, yn awr â nwy, yn gwthio ffiniau gwydredd halen diwydiannol traddodiadol i gyfoethogi fy mhotiau i. Fe gymhwysir slips llachar a gwydreddau llwch mewn haenau lluosog i annog y broses o danio i adael eu marc ar y llestr. Yn ystod y broses danio bydd gweadeddau a symudiad yn digwydd o fewn y gwydredd hylifol, yn cynhyrchu gwydreddau pluog gweadeddol llifol cymhleth i gael eu harchwilio y tu hwnt i’w harwyneb. Bydd pob taniad ag elfen o anrhagweladwyedd wrth i ffiniau’r defnyddiau gael eu gwthio i’w heithaf, caiff y rhai eilradd eu minimeiddio ond fe’u derbynnir o fewn y broses hon – gydag agoriad pob odyn fe gaiff pob llwyddiant ei wrthbwyso â’r methiant achlysurol.
Wrth arddangos yn eang ledled y DU ac Ewrop, byddaf yn mynd i lawer o sioeau, digwyddiadau a symposia serameg lle byddaf yn mwynhau bod yn rhan o gymuned ryngwladol o grochenwyr. Byddaf hefyd yn gwasanaethu fel cyfarwyddwr yr Ŵyl Serameg Ryngwladol, a gynhelir bob dwy flynedd yn Aberystwyth. Mae prosiectau diweddar wedi cynnwys cwblhau dau gomisiwn serameg pensaernïol yn gwneud ffasgia siop o wydredd halen a thu mewn ar gyfer bwyty yn Fulham – cynhyrchu dehongliad modern ar gysylltiad hanesyddol yr ardal â gwydredd halen.
Fe raddiais i o gwrs Serameg Stiwdio Harrow yn 1991 ac yna cefais ofod gweithio wedi’i rannu yn stiwdios ‘Balls Pond’ Kate Malone yn Llundain cyn dychwelyd i weithio fel technegydd a rheolwr stiwdio ar gwrs seramegau Harrow. Yn 1997 fe symudais i Orllewin Cymru i sefydlu stiwdio ar dyddyn lle’r wyf wedi parhau i ddatblygu fy ngwaith a’m taniadau am y tair blynedd ar hugain diwethaf.”
Mae’r gweithiau ar gael i’w prynu
….