IMG_5252-FOG27.jpg

....Paul Wearing: flux & poise..Paul Wearing: fflwcs ac osgo....

....Paul Wearing: flux & poise..Paul Wearing: fflwcs ac osgo....

....28 May – 26 June 2021..28 Mai – 26 Mehefin 2021....

....Gallery 3..Oriel 3....

....

Paul’s making is on the move, through landscapes, time, emotional and physical states. His work leans, lifts, erupts and melts. It is evocative and sensual, in its making and its viewing. Paul’s experiences inform the physicality of his work and our own predilections will further shape what we experience from it. Paul’s making is motivated by how he feels being in the landscape, being part of his surroundings. Whilst his surroundings will have a particular look at a particular moment; be it stormy or calm, bright or brooding, it is his sense of being within that environment that is fundamental to Paul’s creative process.

This particular body of work, flux & poise, charts a journey through a year of exploration. It reveals something of the process of spending time observing and walking the Ceredigion coast. Activity that had a dramatic effect on Paul’s spirit, energising him physically and creatively. This vital experience will continue to filter through Paul’s drawing and sculpture into the future. For now, the evolution from wide, elliptical, painterly surfaces to tilting, dark and encrusted forms is a vivid development. Paul’s vessels have long been elevated, a definitive trait that gives his work a sense of rising or being lifted. Add to this the shifting angles of his most recent works, particularly those that lean in pairs, and the energy of his vessels is on the move.

Photography: Dewi Tannatt Lloyd

Paul Wearing – Material Matters, a film by Dewi Tannatt Lloyd is available to view here

Funded by Arts Council of Wales

For those with hearing impairments a copy of the film transcript can be found here

..

Mae gwneud Paul ar gerdded, drwy dirluniau, amser, cyflyrau emosiynol a chorfforol. Bydd ei waith yn gwyro, yn codi, yn ffrwydro ac yn ymdoddi. Mae’n atgofus ac yn gnawdol, yn ei wneuthuriad ac yn y ffordd o’i wylio. Bydd profiadau Paul yn hysbysu cnawdolrwydd ei waith a bydd ein hoffterau ni ein hunain yn ffurfio ymhellach yr hyn y byddwn yn ei brofi ohono. Fe symbylir gwneud Paul gan y ffordd y bydd yn teimlo o fod yn y dirwedd, bod yn rhan o’i amgylchoedd. Tra bo’i amgylchoedd yn edrych yn benodol ar foment arbennig: boed hynny stormus neu’n dawel, yn ddisglair neu’n synfyfyriol, ei synnwyr o o fod o fewn yr amgylchedd hwnnw sy’n sylfaenol i broses greadigol Paul.

Mae’r corff arbennig hwn o waith, fflwcs ac osgo, yn dilyn hynt taith drwy flwyddyn o archwiliad. Mae’n datgelu rhywbeth o’r broses o dreulio amser yn cerdded ac yn nodi arfordir Ceredigion. Cafodd y gweithgaredd hwn effaith ddramatig ar ysbryd Paul, yn ei nerthu’n gorfforol ac yn greadigol. Bydd y profiad hanfodol hwn yn parhau i hidlo drwy ddarluniau a cherfluniau Paul i’r dyfodol. Am y tro, mae’r esblygiad o arwynebau eang, elyptaidd, peintwrus i ffurfiau gogwyddol, tywyll a chramenog, yn ddatblygiad clir. Mae llestri Paul wedi’u dyrchafu ers amser: nodwedd derfynol sy’n rhoi ymdeimlad o ddyrchafu neu gael ei godi i’w waith. Ychwanegwch at hyn onglau symudol ei waith mwyaf diweddar, y rheiny sy’n goleddu mewn parau, ac mae egni ei lestri ar fynd.

Ffotograffi: Dewi Tannatt Lloyd

Ffilm Paul Wearing – Pwysigrwydd Deunydd, ffilm gan Dewi Tannatt Lloyd ar gael i’w weld yma

Ariennir gan y Cyngor Celfyddydau Cymru

I’r rhai â nam ar eu clyw mae copi o’r trawsgrifiad ffilm i’w gweld yma

....