....Kim & Gerald Dewsbury: On The Wall..Kim & Gerald Dewsbury: Ar Wal....
....5 May – 5 June 2021..5 Mai – 5 Mehefin 2021....
....Project Studios A and B..Stiwdios Prosiect A & B....
....
A new series of crafted fine art by north Wales artists
Series curation: Jonathan Le Vay
Kim Dewsbury
During the last decade Kim has returned to her passion for painting, after spending several years organising and curating exhibitions in North Wales. From Cornwall originally, but raised in the Midlands, Kim returned to Falmouth in 1975 to study Fine Art. Married to the painter Gerald Dewsbury, Llangwm in North Wales has been their home for many years.
Kim is really excited by all the possibilities opening up again in her painting – it is primarily an exploration of what she sees in front of her, and while enjoying the physical properties of paint she aims to give a solidity and reality to her subject matter – and a significance to objects and ideas which form the work.
“Inspired by my rural surroundings – I value that first hand contact with nature; my sketchbooks are filled with walks, insects, clouds, natural ephemera, etc. Patterns and textures fascinate: the velvety skin of a peach, the undulating folds of a distant hillside, the patina of a well thumbed book …. Everything has a story to tell”.
Gerald Dewsbury
Gerald graduated from Falmouth School of Art in 1980 and moved to Wales in 1981 in search of a wider and more varied landscape, becoming a full time professional painter.
Awarded various prizes over the years, including joint winner of the Lle Celf in the National Eisteddfod, Gerald has work in numerous private and public collections, both in Britain and abroad. He works regularly towards exhibitions and to commission, which has included a series of six landscapes completed in 2005 for the Sultan of Oman’s new Palace in Muscat.
Gerald was elected to the RCA in 2003. He exhibits regularly at the Twenty Twenty Gallery in Ludlow; Ffin y Parc, Llanrwst; The Lion Street Gallery in Hay on Wye and the RCA in Conwy.
“2020 did not turn out to be the year we were all expecting. Usually I am out and about a lot, exploring and discovering and experiencing whatever I can in the landscape around me… This year it has been in bursts of activity when I can and peppered with enforced stints of painting and reflection in the studio”.
All works available to purchase
..
Cyfres newydd o gelfyddyd gain wedi’i saernïo gan artistiaid Gogledd Cymru
Curadur y gyfres: Jonathan Le Vay
Kim Dewsbury
Yn ystod y degawd diwethaf mae Kim wedi dychwelyd at ei hangerdd am baentio, wedi iddi dreulio sawl blwyddyn yn trefnu ac yn curadu arddangosfeydd yng Ngogledd Cymru. Yn un o Gernyw’n wreiddiol, ond wedi’i magu yn y Midlands, fe ddychwelodd Kim i Falmouth yn 1975 i astudio Celfyddyd Gain. Wedi priodi â’r arlunydd Gerald Dewsbury, Llangwm yng Ngogledd Cymru sydd wedi bod yn gartref iddyn nhw am flynyddoedd lawer.
Mae Kim yn llawn cyffro gyda’r holl bosibiliadau sy’n dod i’w rhan eto yn ei phaentiadau – yn bennaf mae’n archwiliad o’r hyn y bydd yn ei weld o’i blaen. Wrth fwynhau priodweddau ffisegol paent, ei nod yw rhoi cadernid a realaeth i’w thestun – ac arwyddocâd i wrthrychau a syniadau sy’n ffurfio’r gwaith.
“Wedi fy ysbrydoli gan fy amgylchoedd gwledig – byddaf yn gwerthfawrogi’r cysylltiad cyntaf hwnnw â natur; mae fy llyfrau braslunio’n llawn o lwybrau, pryfed, cymylau, effemera naturiol, etc. Bydd patrymau a gweadeddau’n hudo: croen melfedaidd eirinen wlanog, plygiadau tonnog llechwedd bell, patina llyfr sydd wedi’i fodio’n dda …. Mae gan bopeth stori i’w dweud”.
Gerald Dewsbury
Fe raddiodd Gerald o Ysgol Gelf Falmouth yn 1980 ac fe symudodd i Gymru yn 1981 i chwilio am dirwedd ehangach a mwy amrywiol, a dod yn arlunydd proffesiynol amser llawn.
Wedi’i wobrwyo â gwahanol wobrau dros y blynyddoedd, yn cynnwys cyd-enillydd y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Gerald wedi gweithio mewn nifer o gasgliadau preifat a chyhoeddus, ym Mhrydain a thramor. Bydd yn gweithio’n rheolaidd tuag at arddangosfeydd ac i gomisiwn, sydd wedi cynnwys cyfres o chwech o dirluniau a gwblhawyd yn 2005 ar gyfer Palas newydd Swltan Oman ym Muscat.
Fe etholwyd Gerald i’r Coleg Celf Brenhinol yn Llwydlo; Ffin y Parc, Llanrwst; Oriel Lion Street yn Y Gelli a’r Royal Cambrian Academy yng Nghonwy.
“Nid oedd 2020 yn flwyddyn yr oedden ni i gyd yn ei disgwyl. Fel rheol fe fyddaf i allan yma ac acw gryn dipyn, yn fforio ac yn profi beth bynnag a allaf i yn y dirwedd o’m cwmpas… Eleni fe fu’n hyrddiau o weithgarwch pan allaf i ac wedi’u britho â phyliau gorfodol o baentio ac adlewyrchu yn y stiwdio”.
Mae’r gweithiau ar gael i’w prynu
....