....MASTERY. Women in Silver..MEISTROLAETH. Merched Mewn Arian....
….24 July – 18 September 2021..24 Gorffennaf – 18 Medi 2021....
....Gallery 1 & 2..Oriel 1 & 2....
....
This is the first exhibition to focus on the UK’s exceptionally talented contemporary women designer silversmiths. Fifty years ago, it would have been impossible to assemble an exhibition like this, as there were so few women working in the field. What was once a totally male discipline has been transformed within three generations.
The Mastery exhibitors represent a large cohort of women working at the highest level of silversmithing and include long-established and mid-career artists alongside some emerging makers of exceptional promise. The work itself was chosen to highlight both the diversity of women’s practice and their largely unacknowledged role as innovators. The resulting group of work illustrates a profound understanding of materials and processes and finally lays to rest the curious notion that silversmithing was an unsuitable occupation for a woman. On the contrary, unconstrained by the weight of tradition, women’s silversmithing has brought refreshing new approaches to an ancient craft.
Look closely and you will discover a sense of fun and a vein of playfulness, as well as an intention to surprise, delight, question and subvert. Such feats are only achievable by those working at the very top of their game: masters of their craft.
Exhibitors: Juliette Bigley. Jocelyn Burton. Ane Christensen. Angela Cork. Maureen Edgar. Ndidi Ekubia. Megan Falconer. Na’ama Haneman. Miriam Hanid. Rauni Higson. Kathryn Hinton. Simone ten Hompel. Jessica Jue. Kyosun Jung. Nan Nan Liu. Anna Lorenz. Sheila McDonald. Claire Malet. Jacqueline Mina. Cara Murphy. Theresa Nguyen. Rebecca de Quin. Pamela Rawnsley. Jane Short. Mary Ann Simmons. Hazel Thorn. Adi Toch. Katie Watson. Tamar de Vries Winter
Curated by Dr Elizabeth Goring
..
Dyma’r arddangosfa gyntaf i ganolbwyntio ar ferched cyfoes eithriadol ddawnus y DU sy’n ofaint arian-ddylunwyr. Hanner can mlynedd yn ôl fe fyddai wedi bod yn amhosibl cydosod arddangosfa fel hyn, gan fod yna cyn lleied o ferched yn gweithio yn y maes. Mae’r hyn a oedd unwaith yn ddisgyblaeth wryw lwyr wedi’i thrawsffurfio o fewn tair cenhedlaeth.
Mae’r arddangoswyr Meistrolaeth yn cynrychioli cohort mawr o ferched sy’n gweithio ar lefel uchaf gofannu arian ac yn cynnwys artistiaid canol gyrfa hir-sefydledig ochr-yn-ochr â rhai o wneuthurwyr eithriadol addawol sy’n ymddangos. Fe ddewiswyd y gwaith ei hun i amlygu amrywiaeth arfer merched a’u rôl sydd heb ei chydnabod i raddau helaeth fel arloeswyr. Mae’r grŵp o waith o ganlyniad yn darlunio dealltwriaeth ddwys o ddefnyddiau a phrosesau ac yn rhoi terfyn o’r diwedd ar y cysyniad od fod gofannu arian yn alwedigaeth anaddas i ferch. I’r gwrthwyneb, heb eu gorfodi gan bwysau traddodiad, mae gofannu arian gan ferched wedi dod ag agweddau newydd adfywiol tuag at grefft hynafol.
Edrychwch yn fanwl ac fe ddarganfyddwch chi ymdeimlad o hwyl a gwythïen o fywiogrwydd, yn ogystal â bwriad i synnu, i ymhyfrydu, i gwestiynu a gwyrdroi. Bydd campau fel hyn yn gyraeddadwy dim ond gan y rheiny sy’n gweithio ar binacl eu gallu: meistri eu crefft.
Arddangoswyr: Juliette Bigley. Jocelyn Burton. Ane Christensen. Angela Cork. Maureen Edgar. Ndidi Ekubia. Megan Falconer. Na’ama Haneman. Miriam Hanid. Rauni Higson. Kathryn Hinton. Simone ten Hompel. Jessica Jue. Kyosun Jung. Nan Nan Liu. Anna Lorenz. Sheila McDonald. Claire Malet. Jacqueline Mina. Cara Murphy. Theresa Nguyen. Rebecca de Quin. Pamela Rawnsley. Jane Short. Mary Ann Simmons. Hazel Thorn. Adi Toch. Katie Watson. Tamar de Vries Winter
Curadwyd gan Dr Elizabeth Goring
....