....Made for the Table..Wedi’u Gwneud ar gyfer y Bwrdd....
....3 February – 8 April 2018..3 Chwefror – 8 Ebrill 2018....
....Gallery 1..Oriel 1....
....
Made for the Table presents contemporary silver from the Goldsmiths’ Company Collection, together with the curated work of leading UK artisans in furniture design, glass, ceramics and textiles. This modern table setting is introduced by examples of extraordinary antique silver acquired over several hundred years by the Company. This reflects its long history of patronage and contextualises the outstanding work of makers practicing in Britain today.
The exhibition demonstrates both a continuation of silversmithing techniques and innovation in the treatment of the material. The process of handforging allows cutlery to be created in precisely the same way that it was made over 500 years ago. However, makers continue to explore and experiment with new approaches, influenced by developments in technology.
A Goldsmiths’ Company exhibition.
..
3 Chwefror – 8 Ebrill 2018
Mae Wedi’u Gwneud ar gyfer y Bwrdd yn cyflwyno arian cyfoes o Gasgliad Cwmni Goldsmiths, ynghyd â gwaith dylunio dodrefn, gwydr, cerameg a thecstilau crefftwyr blaenllaw’r Deyrnas Unedig sydd wedi’i ddewis a’i drefnu. Cyflwynir y gosodiad bwrdd modern hwn gan enghreifftiau o hen arian anghyffredin a gafwyd gan y Cwmni dros sawl can mlynedd. Mae hyn yn adlewyrchu ei hanes hir o nawddogaeth ac yn rhoi cyd-destun i waith pwysig gwneuthurwyr sy’n arfer eu crefft ym Mhrydain heddiw.
Mae’r arddangosfa’n dangos parhad dulliau gofannu arian ac arloesi yn y ffordd yr ymdrinnir â’r deunydd. Mae’r broses o ofannu â llaw yn caniatáu creu cyllyll a ffyrc yn yr un ffordd yn union ag y byddai’n cael ei wneud dros 500 mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, bydd gwneuthurwyr yn parhau i archwilio ac arbrofi â dulliau newydd, wedi’u dylanwadu gan ddatblygiadau mewn technoleg.
Arddangosfa Cwmni Goldsmiths.
....