JGJ-1-1.jpg

Jessica Lloyd-Jones

....Jessica Lloyd-Jones: Heat / Light / Colour – Experiments in Metal..Jessica Lloyd-Jones: Gwres / Golau / Lliw – Arbrofion mewn Metel....

....8 – 30 September..8 – 30 Medi....

....Project Studios A and B..Stiwdios Prosiect A & B....

....

Local artist Jessica Lloyd-Jones presents recent experiments in metal, showcasing ideas for new work combining heat, light and colour. Much of the works in the exhibition exploit the reactive nature of copper to form distinct patinas resulting from heat. Lustrous colours ranging through golds, browns, reds and blacks emerge to create surface colouration and pattern. In a number of pieces, the metal is cut into geometric shapes to create abstract layouts evoking explosions or fractures.

In a series of iridescent sculptural works, Jessica has additionally explored the process of annealing; pre-heating and softening the metal, before hand forming it until it hardens due to repetitive bending and folding. Creating each piece from a single flat copper sheet, she has a limited amount of time to form the material before it becomes rigid and set.

‘the works are a one chance process – I create the forms in a single attempt, bending the metal until it can no longer be manipulated. I enjoy the spontaneity that this process brings to the work and the unpredictability of what shape the copper will want to take due to subtle discrepancies in the metal’s softness after heating’.

The resulting works display intriguing crumpled and curled shapes, their undulating creases and folds showing off intense iridescent colours that appear to melt on the copper. Some pieces work to capture light and reflect it internally; enhancing their luminosity and optical delight.

Other 3-dimensional works in the exhibition show experiments with burnt edges in steel rolled into tubular forms. An additional collection of these works reveal vivid projections of colour when illuminated. The final work in the show is a sparkling dark space installation whereby light, projected into an entanglement of copper wire, animates and illuminates the form as if it were electrified.

..

Mae’r artist lleol Jessica Lloyd-Jones yn cyflwyno arbrofion diweddar, yn arddangos syniadau ar gyfer gwaith newydd sy’n cyfuno gwres, golau a lliw. Mae llawer o’r gweithiau yn yr arddangosfa’n defnyddio natur adweithiol copr i ffurfio rhwd gwyrdd arbennig sy’n ganlyniad i wres. Bydd lliwiau gloyw sy’n amrywio drwy aur, brown, coch a du’n ymddangos i greu lliwiad arwyneb a phatrwm. Mewn nifer o ddarnau fe dorrir y metel yn siapiau geometrig i greu cynlluniau abstract sy’n dwyn i gof ffrwydradau neu ddrylliadau.

Mewn cyfres o weithiau cerfluniol symudliw, mae Jessica hefyd wedi archwilio’r broses o anelio; gwresogi ymlaen llaw a meddalu’r metel cyn ei ffurfio â llaw nes y bydd yn caledu oherwydd y plygu ailadroddus. Wrth greu pob darn o un ddalen gopr fflat, mae’r amser yn gyfyngedig iddi ffurfio’r deunydd cyn iddo ddod yn anhyblyg a setio.

‘Mae’r gweithiau’n broses o un cyfle – byddaf yn creu’r ffurfiau mewn un ymgais, yn plygu cymaint ar y metel fel na ellir ei drin ymhellach. Byddaf yn mwynhau’r digymhellrwydd a roddir i’r gwaith gyda’r broses hon a’r ffaith na ellir rhagweld pa siâp fydd i’r copr oherwydd anghysondebau ym meddalwch y metel ar ôl ei wresogi.’

Mae’r gweithiau o ganlyniad yn arddangos siapiau crychlyd a chyrliog chwilfrydig, eu crychiadau a’u plygiadau tonnog yn arddangos lliwiau symudliw dwys sydd fel pe baent yn meddalu ar y copr. Bydd rhai darnau’n gweithio i gipio golau a’i adlewyrchu’n fewnol gan fwyhau eu goleuedd a’u hyfrydwch gweledol.

Mae gweithiau 3-dimensiynol eraill yn yr arddangosfa’n dangos arbrofion gydag ymylon llosg mewn dur wedi’u rholio’n ffurfiau tiwbaidd. Mae casgliad ychwanegol o’r gweithiau hyn yn datgelu tafluniadau llachar o liw pan fyddant wedi’u goleuo. Y gwaith olaf yn y sioe yw gosodiad gofod tywyll pefriog lle bydd golau sydd wedi’i daflunio i mewn i ddryswch o weiren gopr, yn animeiddio ac yn goleuo’r ffurf fel petai wedi’i drydanu.

....