....Age of Experience..Oes o Brofiad....
....24 January – 29 March 2009..24 Ionawr – 29 Mawrth 2009....
....Gallery 1, 2 & 3..Oriel 1, 2 & 3....
....
We live in a youth-focused society, where to be over 60 is often to be stereotyped, and rarely acknowledged as a voice of any authority, let alone a force for change and innovation. It is a delight to welcome this celebration of astonishing and visionary work from a cohort of makers in their third age, and to proactively debunk that tired thinking. As the Campaign for Learning states, ‘learning is a process of active engagement with experience. It is what people do when they want to make sense of the world. It may involve the development or deepening of skills, knowledge, understanding, awareness, values, ideas and feelings, or an increase in the capacity to reflect. Effective learning leads to change, development and the desire to learn more’. Philip Hughes
Curated by Mary La Trobe-Bateman OBE
Fred Baier, Gordon Baldwin, Svend Bayer, Caroline Broadhead, Peter Collingwood, David Drew, Elizabeth Fritsch, Walter Keeler, Mary Restieaux, Michael Rowe, Richard Slee, Richard La Trobe-Bateman, David Watkins, Christopher Williams & Annette Meech.
..
Yr ydym yn byw mewn oes lle mae’r holl bwyslais ar ieuenctid pan mae bod dros 80 oed yn aml yn golygu eich bod yn cael eich ystrydebu a’ch barn yn cael ei hanwybyddu heb fawr obaith cael eich cydnabod fel lladmerydd unrhyw newid nac arloesi. Gwych o beth felly yw medru croesawu a dathlu gwaith gweledol syfrdanol criw o grefftwyr o’r drydedd oes a thrwy hynny lwyddo i gael gwared o’r ystrydeb am byth. Fel y dywed yr Ymgyrch Ddysgu ‘proses yw dysgu sydd yn cyfuno gweithred gyda phrofiad. Dyma beth mae pobl yn ei wneud pan maent eisiau gwneud synnwyr o’r byd. Gall olygu datblygu neu berffeithio sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth, amgyffrediad, gwerthoedd, syniadau a theimladau neu hyd yn oed gynyddu’r gallu i fyfyrio. Y mae dysgu effeithiol yn medru arwain at newid, datblygiad a’r awydd i ddysgu mwy’. Philip Hughes
Curadwyd gan Mary La Trobe-Bateman OBE
Fred Baier, Gordon Baldwin, Svend Bayer, Caroline Broadhead, Peter Collingwood, David Drew, Elizabeth Fritsch, Walter Keeler, Mary Restieaux, Michael Rowe, Richard Slee, Richard La Trobe-Bateman, David Watkins, Christopher Williams & Annette Meech.
....