8360365213_SMALL.jpg

....Kevin Coates: A notebook of pins..Kevin Coates: Nodlyfr am binnau....

....Kevin Coates: A notebook of pins..Kevin Coates: Nodlyfr am binnau....

....20 June – 6 September 2009..20 Mehefin – 6 Medi 2009....

....Gallery 3..Oriel 3....

....

Kevin Coates creates visual poetry. He approaches all aspects of our physical and metaphysical world with a sense of wonder that is simultaneously childlike in its clarity of vision and highly sophisticated in its complexity of thought. He is passionate about communicating to others his perception of the world and its hidden depths and layers. For Coates, there are always mysteries, tiny or vast, to be marvelled at and explored, and his joy comes from the making of connections – between objects and people, myths and symbols, nature and artefact, philosophy and music, words and materials. With an alchemist’s skill, he can transform the apparently mundane into the indisputably magical. These pins, small in scale but rich in meaning, each one resting happily within the ‘comfortable bed’ of its own notebook page, can, like all of Coates’ work, be enjoyed and explored on many different levels.

Exhibition curated by Dr Elizabeth Goring

This exhibition is a collaboration between Ruthin Craft Centre and The Harley Gallery, Welbeck.

..

Y mae Kevin Coates yn creu barddoniaeth weledol. Y mae’n edrych ar bob agwedd o’n bywyd corfforol a metaphysegol gyda rhyfeddod sydd yn gymysgedd o weledigaeth araul y plentyn ac aeddfedrwydd cymhleth yr oedolyn. Mae ynddo ysfa angerddol i rannu gydag eraill ei weledigaeth o’r byd a’i ddyfnderoedd cudd a’i haenau. I Coates y mae yna ddirgelion bach a mawr ym mhobman i ryfeddu atynt ac i’w harchwilio ac y mae’n gorfoleddu wrth greu’r cysylltiadau rhwng pobl a rhwng gwrthrychau, chwedlau a symbolau, natur a chrefft, athroniaeth a cherddoriaeth, geiriau a deunyddiau. Gyda dawn y dewin y mae’n medru trawsnewid y bydol i’r lledrithiol. Y mae’r pinnau bychain hyn yn oludog eu harwyddocâd, oll yn gorffwys yn ddedwydd o fewn eu ‘gwely cysurus’ ar dudalen y nodlyfr ac fel holl waith Coates gellir ei fwynhau ar nifer o wahanol lefelau.

Curedir yr arddangosfa gan Dr Elizabeth Goring

Cydweithrediad yw’r arddangosfa hon rhwng Canolfan Grefft Rhuthun ac Oriel Harley, Welbeck.

….

 

....

....Associated Publications..Cyhoeddiadau Cysylltiedig....

Not Too Precious..Ddim yn Rhy Werthfawr
£18.00