Betty-2-860x612-px.jpg

....Gardens, Myths, Magic..Gerddi, Mythau, Hud....

....Gardens, Myths, Magic, the work of Betty Pennell and Ronald Pennell..Gerddi, Mythau, Hud, gwaith Betty Pennell a Ronald Pennell....

....7 December 2013 – 2 February 2014..7 Rhagfyr 2013 – 2 Chwefror 2014....

....Gallery 2..Oriel 2....

....

It is often said that gardens create order from nature’s chaos. It could further be said that Myth organises the fantastic, unpredictable and unfathomable into vehicles where we can explore the full range of the human condition. Magic emerges by revealing mysterious and parallel worlds in ways that we can feel we could be part of. Through their art, Betty and Ronald Pennell delight and enchant us, taking one on an otherworldly journey through mythical and beguiling landscapes.

Tutored by John Nash and Edward Bawden at the Royal College of Art in the 1950s, Betty Pennell is a wood engraver of particular and considerable talent. Her imagery draws on the yew trees and hedging that delineate the formal gardens along the borders of Wales and England. Ronald Pennell engraves freely on hand-blown glass vessel forms, his narratives becoming an ever-changing grande chasse through imaginary tales of fantastical feats.

This exhibition celebrates the major achievement of this fifty-year creative partnership; the realisation of an outstanding garden, a truly magical place alongside a thriving and superlative creative practice. Ruthin Craft Centre is delighted to have this unique opportunity to stage and share this outstanding body of work. You are invited in to this enchanting and magical world; we hope you will enjoy many reveries…

Philip Hughes

..

Dywedir yn aml bod gerddi yn creu trefn o anhrefn natur. Gellir dweud ymhellach bod Myth yn trefnu’r gwych, yr anragweladwy a’r anesboniadwy i mewn i ffurfiau lle gallwn archwilio holl ystod y cyflwr dynol. Daw hud i’r amlwg drwy ddatgelu bydoedd dirgel a chyfochrog mewn ffyrdd y gallwn ni deimlo yn rhan ohonynt. Trwy gyfrwng eu celf, mae Betty a Ronald Pennell yn ein swyno a’n hudo ni, gan ein tywys ar daith arallfydol trwy dirluniau mytholegol a hudolus.

Wedi derbyn hyfforddant gan John Nash ac Edward Bawden yn y Coleg Celf Brenhinol yn y 1950au, mae Betty Pennell yn ysgythrwr coed a chanddi allu penodol a sylweddol. Mae ei delweddaeth yn deillio o’r coed a’r gwrychoedd ywen sy’n creu terfynnau’r gerddi ffurfiol ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae Ronald Pennell yn ysgythru’n rhydd ar ffurfiau llestr gwydr chwythwyd â llaw, ei naratif yn orchest gysonnewidiol trwy chwedlau dychmygol a rhyfeddol.

Mae’r arddangosfa hon yn dathlu llwyddiant mawr y bartneriaeth greadigol hanner can mlwydd oed hon; yn gwireddu gardd ryfeddol, yn lle gwirioneddol hudolus ochr yn ochr ag arfer creadigol ffyniannus a rhagorol. Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn falch iawn o gael y cyfle unigryw i lwyfannu a rhannu’r corff rhagorol hwn o waith. Fe’ch gwahoddir i mewn i’r byd hudolus a llawn swyn hwn; gobeithiwn y byddwch yn mwynhau llawer o synfyfyrio…

Philip Hughes

....