CI-3-860x612-px.jpg

....Ceramics Illustrated..Darluniadu Serameg....

....Ceramics Illustrated..Darluniadu Serameg....

....28 September – 1 December 2013..28 Medi – 1 Rhagfyr 2013….

....Gallery 3..Oriel 3....

….

Hand-made ceramics and contemporary illustration, two very separate disciplines, come together here. With surfaces supporting images that are not simply decorative, objects, familiar from their everyday utility, address ambitious concepts and themes, providing arenas for depiction, expression, commemoration and political commentary.

These secondary, narrative functions for ceramics are well established in the history of the medium, but a new, eclectic freedom in the use of imagery takes them into more challenging areas. Precedent adds to our willingness to read them in this manner, and it may be that messages so delivered are all the more powerful for the way they infiltrate our awareness via the everyday object, on jugs, plates and tiles. Works may function as conversation pieces, initiating discussion beyond the particular themes and images they bear; they are starting points, rich both in material and ideas.

The exhibition includes the work of Lowri Davies, Amy Jayne Hughes, Katy Jennings, Sun Ae Kim, Hanne Mannheimer, Emilie Taylor, Sophie Wiltshire, Daniel Wright, Suet Yi.

..

Daw serameg wnaed â llaw a darlunio cyfoes, dwy ddisgyblaeth hollol ar wahân at ei gilydd yma. Gydag arwynebau yn cynnwys delweddau, sydd heb o reidrwydd fod yn rhai addurniadol, mae gwrthrychau cyfarwydd o’u defnydd bob dydd yn mynd i’r afael â chysyniadau a themâu uchelgeisiol, gan ddarparu arenâu ar gyfer portread, mynegiant, coffâd a sylwebaeth wleidyddol.

Mae’r swyddogaethau naratif eilradd hyn ar gyfer serameg wedi hen sefydlu yn hanes y cyfrwng, ond mae rhyddid newydd, eclectig yn y defnydd o ddelweddau yn mynd a nhw i fannau mwy heriol. Mae cynsail yn ychwanegu at ein parodrwydd i’w darllen yn y modd hwn, ac efallai bod y negeseuon gyflwynir fel hyn yn fwy pwerus oherwydd y modd byddant yn ymdreiddio i’n hymwybyddiaaeth trwy gyfrwng y gwrthrych bob dydd, ar jygiau, platiau a theils. Gall gweithiau weithredu fel testun sgwrs, yn ysgogi trafodaeth sydd tu hwnt i’r themâu a’r delweddau penodol sydd arnynt; maent yn fannau cychwyn, yn gyfoethog o ran deunydd a syniadau.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan Lowri Davies, Amy Jayne Hughes, Katy Jennings, Sun Ae Kim, Hanne Mannheimer, Emilie Taylor, Sophie Wiltshire, Daniel Wright, Suet Yi.

….