....Emmanuel Cooper OBE 1938–2012 A Retrospective Exhibition..Emmanuel Cooper OBE 1938–2012 Arddangosfa ôl-syllol....
....7 December 2013 – 2 February 2014..7 Rhagfyr 2013 – 2 Chwefror 2014….
....Gallery 1..Oriel 1....
….
Dr Emmanuel Cooper OBE (HonDFA) 1938–2012 was a distinguished craftsman, writer, teacher and broadcaster. A potter of international standing, his work is represented in many public collections. The author of nearly thirty books, he was editor of Ceramic Review, visiting Professor at London’s Royal College of Art, and a regular broadcaster on television and radio. He was awarded an OBE in 2002 for services to art. Emmanuel’s contribution to the world of ceramics was hugely significant. This will be celebrated with a touring exhibition of his ceramics and a publication looking at his life in pots – produced by Ruthin Craft Centre in collaboration with the University of Derby.
..
Roedd Dr Emmanuel Cooper OBE (HonDFA) 1938–2012 yn grefftwr, llenor, athro a darlledwr o fri. Yn grochenydd o statws rhyngwladol, caiff ei waith ei gynrychioli mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus. Roedd yn awdur bron i ddeg ar hugain o lyfrau, yn olygydd Ceramic Review, Athro gwadd yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain, ac yn ddarlledwr cyson ar y teledu a’r radio. Yn 2002 dyfarnwyd OBE iddo am ei wasanaeth i gelfyddyd. Gwnaeth Emmanuel gyfraniad hynod arwyddocaol i’r byd serameg. Dethlir hyn gydag arddangosfa deithiol o’i serameg a chyhoeddiad yn edrych ar ei fywyd mewn potiau – cynhyrchir gan Ganolfan Grefft Rhuthun mewn cydweithrediad â Phrifysgol Derby.
….