….
David Nash : Nature Wisdom
All gallery spaces
..
David Nash : Doethineb Natur
Pob gofod yn yr oriel
….
….
27 September 2025 – 11 January 2026
David Nash Nature Wisdom opens at Ruthin Craft Centre on Saturday 27 September 2025 and runs until 11 January 2026. This new show brings together over sixty years of Nash’s sculpture, prints, drawings and films in an epic exhibition to celebrate his eightieth year.
Internationally renowned sculptor David Nash has been living and working in Blaenau Ffestiniog since 1967. Known for his work in wood, he only uses trees that have fallen naturally or had to be felled for reasons of safety, disease or age. He makes work from the green wood, carving and sometimes charring pieces. Nash uses a whole tree, quarrying the ideas as well as the material to waste nothing. Frequent motifs include columns, vessels, crosses, eggs, and the platonic solids – sphere, cube and pyramid.
A student of nature, Nash has allowed natural processes to lead him in ideas – beginning works that nature completes or complies in. For example, the Crack and Warp Column is cut when the wood is green and then left for the natural drying process to create the final shapes and curves.
A large-scale sculpture from cork oak bark will be installed in the courtyard which will begin to be constructed on the 16th of September.
Curated by Gregory Parsons, this show celebrates and illuminates David Nash’s work to date and introduces a new generation to this important contribution to culture.
..
27 Medi 2025 – 11 Ionawr 2026
Mae Doethineb Natur David Nash yn agor yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar ddydd Sadwrn 27 Medi 2025 ac yn rhedeg tan 11 Ionawr 2026. Mae'r arddangosfa newydd hon yn dwyn ynghyd dros drigain mlynedd o gerfluniau, printiau, lluniadau a ffilmiau Nash mewn arddangosfa epig i ddathlu ei bedwar ugain mlynedd.
Yn gerflunydd rhyngwladol enwog mae David Nash wedi bod yn byw ac yn gweithio ym Mlaenau Ffestiniog ers 1967. Mae’n adnabyddus am ei waith mewn pren, gan ddefnyddio coed sydd wedi cwympo'n naturiol neu y bu'n rhaid eu torri i lawr am resymau diogelwch, clefyd neu oedran yn unig. Mae'n gwneud gwaith o'r pren gwyrdd, gan gerfio ac ar adegau golosgi darnau. Mae Nash yn defnyddio’r goeden gyfan, gan chwarelu syniadau yn ogystal â'r deunydd i arbed unrhyw wastraff. Mae motiffau cyffredin yn cynnwys colofnau, badau, croesau, wyau, a'r soledau platonaidd – y sffêr, ciwb a phyramid.
Yn fyfyriwr natur, mae Nash yn gadael i brosesau naturiol arwain ei syniadaeth – gan ddechrau gweithiau y mae natur yn eu cwblhau neu'n cydymffurfio yn eu cread. Er enghraifft, cafodd y Crack and Warp Column ei gerfio pan oedd y pren yn wyrdd ac yna'n cael ei adael i’r broses sychu naturiol greu'r siapiau a'r cromliniau terfynol.
Bydd cerflun mawr o risgl derwen gorc yn cael ei lunio yn y cowrt a bydd y gwaith o’i adeiladu yn dechrau ar yr 16eg o Fedi.
Wedi’i churadu gan Gregory Parsons, mae'r arddangosfa hon yn dathlu ac yn bwrw golwg ar waith David Nash hyd yma ac yn cyflwyno cenhedlaeth newydd i'r cyfraniad pwysig hwn i ddiwylliant.
….
....
photos: Stephen Heaton
..
ffotos: Stephen Heaton
....