….
Mary Griffiths : Printmaker in Focus
Studio 2
..
Mary Griffiths : Gwneuthurwr Printiau mewn Ffocws
Stiwdio 2
….
….
5 July – 21 September 2025
Mary Griffiths’s prints and drawings often stem from her collaborative approach to making. Works in this exhibition have come from conversations with bio-physicists (Everything and All of Us); musicians (Weather); a physicist (Prospect Planes); and a writer (Prophet). Her geometric abstract works convey sophisticated ideas in a poetic way as she seamlessly bridges the macroscopic with the microscopic and moves from the cosmological to the atomic. The prints and drawings also often explore individual and collective memories and histories, the psycho-architecture of the house and particularly that of the working-class terrace, creating a relationship between two-dimensional drawing and three-dimensional space.
Griffiths’s distinctive drawing process involves applying layer upon layer of graphite to a surface and polishing it to a mirror sheen before cutting linear forms into it. It is a meticulous and time-consuming process and the myriad lines create depth and movement and animate the surface.
Born on the Wirral, Mary Griffiths has family connections to north Wales. Until 2020 she worked as a curator in various museums and galleries, most recently at the Whitworth in Manchester. She has exhibited widely, including exhibitions at Cristea Roberts Gallery, London, the Drawing Room, London, the Royal Academy and the Museum of Science and Industry, Manchester. She was awarded the Gatenby Fellowship at Leeds University in 2023 and had a major solo exhibition at the Stanley & Audrey Burton Gallery at the University in 2024.
Curated by: Ann Jones
..
5 Gorffennaf – 21 Medi 2025
Mae printiau a lluniadau Mary Griffiths yn deillio’n aml o’i hymagwedd gydweithredol tuag at greu. Mae’r gweithiau yn yr arddangosfa hon wedi dod drwy sgyrsiau â bio-ffisegwyr, (Everything and All of Us); cerddorion (Weather); ffisegydd (Prospect Planes); ac awdur (Prophet). Mae ei gweithiau geometrig haniaethol yn cyfleu syniadau soffistigedig mewn ffordd farddonol wrth iddi bontio o’r macrosgopig i’r microsgopig yn ddi-dor a symud o’r cosmolegol i’r atomig. Yn aml mae’r printiau a’r lluniadau’n archwilio atgofion a hanesion unigol a thorfol, seico-bensaernïaeth y tŷ ac yn enwedig y teras dosbarth gweithiol, gan greu perthynas rhwng lluniad dau ddimensiwn a gofod tri dimensiwn.
Mae proses luniadu nodedig Griffiths yn ymwneud â gosod haen ar ben haen o graffit ar wyneb a’i bolisio i sglein drych cyn torri ffurfiau llinol ynddo. Mae’n broses fanwl sy’n gofyn amser ac mae’r myrdd o linellau’n creu dyfnder a symudedd ac yn animeiddio’r arwyneb.
Ganed Mary Griffiths yng Nghilgwri ac mae ganddi gysylltiadau teuluol yng ngogledd Cymru. Hyd 2020 bu’n gweithio fel curadur mewn amgueddfeydd ac orielau amrywiol, yn fwyaf diweddar yn y Whitworth ym Manceinion. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang gan gynnwys arddangosfeydd yn y Cristea Roberts Gallery, Llundain, the Drawing Room, Llundain, yr Academi Frenhinol ac Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant, Manceinion. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Gatenby iddi ym Mhrifysgol Leeds yn 2023 a chafodd arddangosfa unigol fawr yn y Stanley & Audrey Burton Gallery yn y Brifysgol yn 2024.
Curadwyd gan: Ann Jones
….
….Images © the artist..Delweddau © yr arlunydd….