Wendy Lawrence WEB 1.jpg

....Wendy Lawrence..Wendy Lawrence....

....24 January – 22 March 2026..24 Ionawr – 22 Mawrth 2026....

….

Wendy Lawrence : Ceramic Portal

Coming soon
Studio 6

..

Wendy Lawrence : Porthol Serameg

Yn dod yn fuan
Stiwdio 6

….

….

24 January – 22 March 2026

Wendy’s ongoing delight in texture and surface is key to her oeuvre. Her ideas develop from geological investigation into natural forms found in the landscape and man’s influence on that through the study of archeological sites. Continuous ongoing research and development of new forms, increasing the scale of work, and investigating new surfaces, glazes, engobes and oxides, is all part of her ongoing journey in clay.

Wendy has worked steadily in her studio in Denbigh for over twenty five years. She has participated at many clay events, demonstrations and symposium. These range from The International Ceramic Festival in Aberystwyth Clay Art in Wales, Scottish Potters Association and many events throughout the UK and beyond – including Keramisto, Art in Clay at Hatfield, Earth and Fire and Ceramic Art London She has exhibited nationally and internationally and Ruthin Craft Centre has shown her work over many years including at SOFA Chicago.

Wendy has also been featured in Ceramics Art and Peception, Crafts and Ceramic Review and continues to divide her time between making, teaching (Senior Lecturer at Wrexham University) and joint organising Ceramic Wales.

..

24 Ionawr – 22 Mawrth 2026

Mae pleser parhaus Wendy mewn gwead ac arwyneb yn allweddol i’w holl waith. Mae ei syniadau’n datblygu o ymchwiliad daearegol i ffurfiau naturiol sydd i’w canfod yn y dirwedd ac effaith dyn ar hynny drwy astudio safleoedd archeolegol. Mae ymchwil barhaus a datblygiad ffurfiau newydd, cynyddu graddfa’r gwaith, ac ymchwilio i arwynebau, gwydreddau, engobau ac ocsidau newydd, i gyd yn rhan o’i siwrnai barhaus ym maes clai.

Mae Wendy wedi gweithio’n ddyfal yn ei stiwdio yn Ninbych ers dros bum mlynedd ar hugain. Mae hi wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau clai, arddangosiadau a symposia. Mae’r rhain yn amrywio o’r Ŵyl Cerameg Ryngwladol yn Aberystwyth, Clay Art yng Nghymru, Scottish Potters Association a llawer o ddigwyddiadau ledled y DG a thu hwnt – gan gynnwys Keramisto, Art in Clay yn Hatfield, Earth and Fire a Ceramic Art London. Mae hi wedi arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac mae Canolfan Grefft Rhuthun wedi dangos ei gwaith dros nifer o flynyddoedd gan gynnwys yn SOFA Chicago.

Mae Wendy hefyd wedi cael sylw yn Ceramics Art and Perception, Crafts a Ceramic Review ac mae’n parhau i rannu ei hamser rhwng creu, addysgu (Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Wrecsam) a chyd-drefnu Ceramic Wales.

….

….Photography: Shannon Tofts..Ffotograffiaeth: Shannon Tofts….