….
Nick Membery – Ceramic Portal
Studio 6
..
Nick Membery – Porthol Serameg
Stiwdio 6
….
….
28 March – 28 June 2026
Nick has been making stoneware pottery for over 30 years and has been living and working in Carmarthenshire, West Wales, for more than 20 of those. After about 25 years of making a repeated catalogue range, Nick gradually started making pots which, while still always intended for use, are of a more individual nature. Most of all they are to be enjoyed and, when coupled with the ceremony of eating good food in good company, they can be truly life enriching. His work, in its own small way, is the antithesis of mass production and consumerism.
He realised a long-held ambition early in 2019 when he built and started firing his work in a large wood-fired kiln. He now feels like he is at the beginning, with each pot unique and each one’s own idiosyncrasies to be celebrated and embraced.
“Increasingly, my pots take on the colours and tones of the environment that surrounds me. More and more, I gather local materials, unique to my location, for decorating and glazing my work: clay, ash and stone are all used to inextricably connect me, and my pots, to where I live.”
..
28 Mawrth – 28 Mehefin 2026
Mae Nick wedi bod yn creu llestri crochenwaith caled ers dros 30 mlynedd ac wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin am dros 20 o’r rheiny. Ar ôl 25 mlynedd o greu amrediad catalog ailadroddol, yn raddol dechreuodd Nick greu potiau sydd o natur fwy unigol er mai parhau i’w defnyddio yw’r bwriad o hyd. Y diben pennaf yw eu mwynhau, a phan maen nhw wedi’u cyplysu â’r seremoni o fwyta bwyd amheuthun mewn cwmni da maen nhw’n gallu cyfoethogi bywyd i ddifri. Mae ei waith yn ei ffordd fach ei hun yn wrthbwynt i fasgynhyrchu a phrynwriaeth.
Gwireddodd uchelgais hirhoedlog yn gynnar yn 2019 pan adeiladodd ac yna dechreuodd danio ei waith mewn odyn tân coed mawr. Bellach mae’n teimlo ei fod ar y cychwyn, gyda phob pot yn unigryw a bod gan bob un ei hynodrwydd i’w ddathlu a’i gofleidio.
“Yn gynyddol, mae fy mhotiau yn cymryd lliwiau a thonau’r amgylchedd sy’n fy amgylchynu. Yn fwyfwy, rwy’n casglu deunyddiau lleol sy’n unigryw i’m lleoliad er mwyn addurno a gwydro fy ngwaith: caiff clai, lludw a cherrig oll eu defnyddio er mwyn fy nghysylltu i a fy mhotiau yn annatod â lle rwy’n byw.”
….
....Photography © the artist..Ffotograffiaeth © yr arlunydd....