….
Grain + Fibre : Wood and Paper in Contemporary Craft
Coming soon
Gallery 1
..
Graen + Ffibr : Pren a Phapur mewn Crefft Gyfoes
Yn dod yn fuan
Oriel 1
….
….
24 January – 22 March 2026
Wood and paper – intimately connected in origin and character – have long been essential to human life, both practically and creatively. This exhibition celebrates their deep material relationship and their enduring presence not only in our homes and histories, but also in the realm of artistic expression.
Used for millennia, wood has provided structure, warmth, and function from shelter to furniture, from tools to fuel. Paper, first developed in second-century BCE Asia, emerged as a refined, versatile by-product of wood and plant fibres, radically transforming the ways we communicate, document, and share ideas.
In the arts, these materials transcend their utilitarian roots. The craft arena continues to explore the tactile and expressive possibilities of wood and paper; shaping, layering, carving, folding, and assembling them in innovative ways. Wood offers weight, texture, and permanence; paper brings lightness, delicacy, and adaptability. Both invite transformation and speak to themes of nature, impermanence, memory, and craft.
Today, in an age dominated by the digital and the synthetic, the handmade qualities of wood and paper take on renewed meaning. Their organic presence offers a counterpoint to the virtual, and their sustainability resonates in an era urgently seeking ecological balance.
This exhibition brings together works that highlight the aesthetic, conceptual, and sculptural potential of these intertwined materials, inviting you to reconsider their place not just in our daily lives, but in the imagination of contemporary craft.
Curated by Gregory Parsons
Exhibitors: Lesley Barnes & Ross McAuley / Jennifer Collier / Mandy Coppes-Martin / John Crossley – All in the Making / Fung & Bedford / Jack Havelock Bailey / Francesca Kay / Greg Kent / Emma Lawrenson / Jo MacDonald / Natascha Maksimovic / The Marchmont Workshop / Dominic Pearce – Cornish Woodsmith / Kate Rochester – Hanbury Press / Jane Sedgwick / Julia Stephenson / Takahashi McGil / David White
..
24 Ionawr – 22 Mawrth 2026
Pren a phapur – wedi’u cysylltu’n agos o ran tarddiad a chymeriad - ers amser maith, wedi bod yn hanfodol i fywyd dynol yn ymarferol a hefyd yn greadigol. Mae'r arddangosfa hon yn dathlu eu perthynas faterol ddofn a'u presenoldeb parhaus, nid yn unig yn ein cartrefi a'n hanesion, ond hefyd ym myd mynegiant artistig.
Wedi’i ddefnyddio ers miloedd o flynyddoedd, mae pren wedi darparu strwythur, cynhesrwydd a swyddogaeth – o loches i ddodrefn, o offer i danwydd. Datblygwyd papur yn gyntaf yn Asia yn yr ail ganrif CCC, ac fe ymddangosodd fel sgîl-gynnyrch coeth ac amlddefnydd o ffibrau pren a phlanhigion, gan lwyr drawsnewid y ffyrdd rydym yn cyfathrebu, dogfennu a rhannu syniadau.
Ym myd y celfyddydau, mae’r deunyddiau hyn yn mynd y tu hwnt i’w gwreiddiau iwtilitaraidd. Mae’r maes crefft yn parhau i ymchwilio i’r posibiliadau cyffyrddol a mynegiannol a berthyn i bren a phapur; eu siapio, eu haenu, eu cerfio, eu plygu a’u cydosod mewn ffyrdd arloesol. Mae pren yn cynnig pwysau, gweadedd a hirhoedledd; mae papur yn dod ag ysgafnder, chywreinrwydd a hyblygrwydd. Mae’r ddau’n gwahodd trawsnewid ac yn cyfleu themâu natur, byrhoedledd, cof a chrefft.
Heddiw, mewn oes a dra-arglwyddiaethir gan y digidol a’r synthetig, mae rhinweddau crefftwaith pren a phapur yn ennill ystyr newydd. Mae eu presenoldeb organig yn cynnig gwrthbwynt i’r rhithiol, ac mae eu cynaliadwyedd yn atseinio mewn cyfnod sy’n chwilio’n daer am gydbwysedd ecolegol.
Mae’r arddangosfa hon yn dod â gweithiau ynghyd sy’n amlygu potensial esthetig, cysyniadol a cherfluniol y deunyddiau cydblethedig hyn, gan eich gwahodd i ailystyried eu lle nid yn unig yn ein bywydau bob dydd, ond hefyd yn nychymyg crefft gyfoes.
Curadwyd gan Gregory Parsons
Arddangoswyr: Lesley Barnes & Ross McAuley / Jennifer Collier / Mandy Coppes-Martin / John Crossley – All in the Making / Fung & Bedford / Jack Havelock Bailey / Francesca Kay / Greg Kent / Emma Lawrenson / Jo MacDonald / Natascha Maksimovic / The Marchmont Workshop / Dominic Pearce – Cornish Woodsmith / Kate Rochester – Hanbury Press / Jane Sedgwick / Julia Stephenson / Takahashi McGil / David White
….
....above: Jane Sedgwick. All photography © the artists..uchod: Jane Sedgwick. Pob ffotograffiaeth © yr artistiaid....