….
Jane Perryman : Meadow
Gallery 2
..
Jane Perryman : Dôl
Oriel 2
….
….
28 March – 28 June 2026
From an acre of agricultural farmland planted over 25 years ago with meadow seed grew a multitude of flowers, grasses, fungi, native hedges and trees awarded private nature reserve status by Suffolk Wildlife Trust.
Known for her smoke fired and monochrome ceramics Jane began during lockdown to document, gather and forage from the meadow to create pigments.
‘I have been working in monochrome for several decades and had recently been wanting to re-explore colour but was blocked and almost scared of it. Suddenly colour was being gifted to me from the same earth which gave me my clay, and the soft colours made my heart sing. Could these pigments be absorbed into a porous ceramic surface? I found myself on the same voyage of discovery through risk, trial and error that smoke firing had given me several decades earlier and realised I could create a colour palette without the use of commercially formulated chemicals. The seasonal rhythms of the meadow are fluid and transient as are the distilled pigments which can change depending on light and time.’
‘This visual manifestation of what can be achieved through rewilding is accessible to anyone with a garden or piece of land and can help to raise awareness of the impact of creating biodiversity.’
A soundscape by Kevin Flanagan will accompany Meadow.
Curated by Samantha Rhodes
..
28 Mawrth – 28 Mehefin 2026
Dyfarnwyd statws gwarchodfa natur breifat gan y Suffolk Wildlife Trust i erw o dir ffermio amaethyddol a blannwyd â hadau gweirglodd dros 25 mlynedd yn ôl, lle tyfodd lluosogrwydd o flodau, gweiriau, ffwng, cloddiau a choed brodorol.
A hithau’n enwog am ei gwaith cerameg unlliw wedi’i danio â mwg, yn ystod y cyfnod clo dechreuodd Jane ddogfennu, crynhoi a chwilota o’r ddôl er mwyn creu pigmentau.
‘Rwyf wedi bod yn gweithio mewn monocrom ers sawl degawd ac yn ddiweddar rwyf wedi eisiau ail-archwilio lliw, ond roeddwn wedi fy rhwystro a braidd yn ofnus ohono. Yn sydyn roeddwn yn cael fy anrhegu â lliw o’r un pridd a rhoddodd yn fy nghlai i mi, ac roedd y lliwiau tyner yn llonni fy nghalon. Oni allai’r pigmentau gael eu hamsugno i arwyneb ceramig mandyllog? Cefais fy hun ar yr un siwrnai ddarganfod drwy risg, mentro a methu roedd tanio â mwg wedi rhoi i mi sawl degawd yn gynt a sylweddolais fy mod yn gallu creu palet lliw heb ddefnyddio cemegau wedi’u llunio’n fasnachol. Mae rhythmau tymhorol y ddôl yn symudol ac yn fyrhoedlog fel y mae pigmentau wedi’u distyllu sy’n medru newid gan ddibynnu ar olau ac amser.’
‘Mae’r amlygiad gweledol hwn o’r hyn sy’n gallu cael ei gyflawni drwy ailwylltio, yn hygyrch i unrhyw un sydd â gardd neu lecyn o dir ac yn gallu cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth o effaith creu bioamrywiaeth.’
Bydd seinwedd gan Kevin Flanagan yn cyd-fynd â Dôl.
Curadwyd gan Samantha Rhodes
….
....
Associated Events
..
Digwyddiadau Cysylltiedig
....
....Photography © the artist..Ffotograffiaeth © yr arlunydd....
