….
Huw Jones
Coming soon
CELF gallery
..
Huw Jones
Yn dod yn fuan
oriel CELF
….
….
24 January – 8 March 2026
Two decades have passed since I last showed at Ruthin Craft Centre (RCC). I had three solo shows at the previous art space, Studio 8, in the years 1996, 2000 and 2005. Two of those shows toured nationally and several of the paintings shown then have been bought for the National Collection of Wales.
My work has evolved in stages in the intervening years but there has always been an interaction between the figurative and the abstract. A few works from those early shows, together with works done since 2021, where Covid had an influence on my painting. During lockdown I started to walk daily along the coast where I live between the foothills of the Carneddau and the shore and painted outside with watercolours and then with acrylics and oils in my studio. In my most recent work, I have returned to the human figure and the interaction between the figurative and the abstract has come to the fore once more.
It is a great pleasure for me to be given the opportunity to show at RCC again in this wonderful new space.
Huw Jones
..
24 Ionawr – 8 Mawrth 2026
Mae dau ddegawd wedi mynd heibio ers i mi arddangos diwethaf yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Cefais dair arddangosfa unigol yn Stiwdio 8, y gofod celf blaenorol, yn y blynyddoedd 1996, 2000 a 2005. Teithiodd ddwy o’r sioeau hyn yn genedlaethol a phrynwyd sawl paentiad a arddangoswyd bryd hynny ar gyfer Casgliad Cenedlaethol Cymru.
Mae fy ngwaith wedi esblygu mewn camau yn y blynyddoedd ers hynny ond mae rhyngweithiad cyson wedi bod rhwng y ffigurol a’r haniaethol. Yn cynnwys ambell ddarn o’r sioeau cynnar hynny, ynghyd â gwaith a gyflawnwyd ers 2021, lle’r oedd Covid yn dylanwadu ar fy mhaentio. Yn ystod y cyfnod clo dechreuais gerdded yn ddyddiol ar hyd yr arfordir lle rwy’n byw rhwng troedfryniau’r Carneddau a’r glannau a phaentio tu allan gyda dyfrlliwiau ac yna gyda phaent acrylig ac olew yn fy stiwdio. Gyda fy ngwaith mwyaf diweddar rwyf wedi dychwelyd at y ffigur dynol ac mae’r rhyngweithio rhwng y ffigurol a’r haniaethol wedi dod i’r amlwg unwaith eto.
Caf bleser mawr o gael y cyfle hwn i arddangos eto yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn y gofod gwych newydd hwn.
Huw Jones
….
…. © Huw Jones..© Huw Jones….