WIC.jpg

....What is Craft? Materials..Beth yw Crefft? Deunydd....

....What is Craft? Materials..Beth yw Crefft? Deunydd....

....Summer 2015..Haf 2015....

....

Get inspired! Get involved!

Come down to the new Resource Space, Get inspired! Get involved! with films, objects to touch, ‘Makers Collections’ by textile artist Michael Brennand-Wood and ceramicist Claire Curneen and more.

Ruthin Craft Centre is delighted to launch our new and exciting programme called What is Craft? As part of this project we will be undertaking a 2 year audience development, outreach and resource legacy programme which includes a new designated on-site resource space at Ruthin Craft Centre. We want to return to the basic questions about the nature of craft and its relation to everyday living. What is Craft? Who does it? Why do they do it? Why does it matter?

We hope you will be inspired by this programme and more importantly get involved! We kick off the summer season with our first theme ‘Materials’.

What is Craft? – Materials Historically, the materials of choice for artists and craftspeople were obtained from their natural environment. In the twentieth century, new resources were explored in a quest to discover what art could be and what it could be made from. As the parameters of art and crafts continue to expand, so too does the seemingly limitless range of materials available for making objects. In recent times, greater emphasis has been placed on the use of renewable sources and recycling materials when possible – Julie Robson.

This summer we’ll be investigating some of these materials and the different purposes for which they have been used through our summer engagement programme.

Exhibition – ‘Exploring ‘Materials but with a difference’ – Arts and Business Cymru and Jones Bros. Civil Engineering company project. This season Ruthin Craft Centre has been working in collaboration with Jones Bros. to run a project which explores areas of mutual interest within engineering industry and the arts. Pupils from Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Pentrecelyn, Ysgol Penbarras and Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd visited the Craft Centre in May for a workshop, which involved transforming the donated ‘waste’ materials from Jones Bros. into works of art, using recycled wires, plastic, raffia and cable ties to create colourful 3D sculptures with textile artist Bella Leonard. The artwork and resources created during these sessions will be on display at the Craft Centre in our new resource space throughout the summer holidays for everyone to come and see and enjoy.

This season of What is Craft? is funded by Arts Council of Wales as part of their ‘Our Space’ programme.

..

Cewch eich ysbrydoli! Cyfranogwch!

Dewch i lawr i’r Gofod Adnoddau newydd, Cewch eich ysbrydoli! Cyfranogwch! with films, objects to touch, gyda ffilmiau , gwrthrychau i gyffwrdd, ‘Makers Casgliadau’ gan yr artist tecstilau Michael Brennand-Wood a ceramegydd Claire Curneen a mwy.

Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn hynod falch o lansio rhaglen newydd a chyffrous o’r enw Beth yw Crefft? Yn rhan o’r prosiect hwn byddwn yn ymgymryd â rhaglen 2 flynedd o ddatblygu cynulleidfa, allgymorth a rhaglen o gymyn-adnoddau sy’n cynnwys gofod adnoddau dynodedig newydd ar-lein yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Rydym am ddychwelyd i’r cwestiynau sylfaenol ynglŷn â natur crefft a’i pherthynas â bywyd dyddiol. Beth yw Crefft? Pwy sy’n ei gwneud? Pam gwneud hynny? Ydi crefft o bwys?

Rydyn ni’n gobeithio y cewch eich ysbrydoli gan y rhaglen yma ac, yn bwysicach, y byddwch yn cyfranogi! Rydyn ni’n dechrau tymor yr haf â’n thema gyntaf ‘Deunydd’.

Beth yw Crefft? – Deunydd Yn hanesyddol byddai artistiaid a chrefftwyr yn cael eu deunydd dewisol o’u hamgylchedd naturiol. Yn yr ugeinfed ganrif fe fu yna archwilio adnoddau newydd mewn ymgais i ddarganfod beth allai celfyddyd fod ac o beth y gellid ei gwneud. Wrth i ffiniau celf a chrefftau barhau i ehangu, felly hefyd y mae’r ystod ymddangosiadol ddiddiwedd o ddeunydd sydd ar gael i wneud gwrthrychau. Yn ddiweddar, rhoddwyd mwy o bwyslais ar ddefnyddio adnoddau adnewyddadwy a deunydd ailgylchu lle bydd hynny’n bosib – Julie Robson.

Yr haf hwn byddwn yn ymchwilio rhai o’r defnyddiau a’r gwahanol ddibenion y maen nhw wedi eu defnyddio ar eu cyfer drwy ein rhaglen haf o ymgysylltu. Gofod Adnoddau – Ffilmiau, pecyn dysgu, ‘Makers Collections’ gan yr artist tecstilau Michael Brennand-Wood a’r seramegydd Claire Curneen a mwy.

Arddangosfa – Archwilio ‘Deunydd ond â gwahaniaeth’ – prosiect Arts & Business Cymru a cwmni Jones Bros. Civil Engineering. Y tymor hwn mae Canolfan Grefft Rhuthun wedi bod yn cydweithredu â Jones Bros. i gynnal prosiect sy’n archwilio meysydd sydd o gyd-ddiddordeb o fewn y diwydiant peirianneg a’r celfyddydau. Fe ymwelodd disgyblion o Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Pentrecelyn, Ysgol Penbarras ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd â’r Ganolfan Grefft ym mis Mai ar gyfer gweithdy a oedd yn ymwneud â thrawsnewid y deunydd ‘gwastraff’ a roddwyd gan Jones Bros. yn waith celfyddydol, gan ddefnyddio weiren, plastig, raffia a rhwymynnau cebl wedi’u hailgylchu i greu cerfluniau lliwgar 3D efo’r artist tecstilau Bella Leonard. Bydd y gwaith celf a’r adnoddau a grëwyd yn ystod y sesiynau hyn yn cael eu harddangos yn y Ganolfan Grefft yn ein gofod newydd drwy gydol gwyliau’r haf er mwyn i bawb ddod i’w gweld a’u mwynhau.

Caiff y tymor hwn o Beth yw Crefft? ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru’n rhan o’u rhaglen ‘Ein Gofod’.

....