....Wallace Sewell: Colour & Construction..Wallace Sewell: Lliw ac Adeiladwaith....
....28 November 2015 – 31 January 2016..28 Tachwedd 2015 – 31 Ionawr 2016....
....Gallery 3..Oriel 3....
....
UK based British design studio, Wallace Sewell, was established by Harriet Wallace-Jones and Emma Sewell after graduating from The Royal College of Art in 1990. Their diverse portfolio includes scarves for the Tate museums as well as moquette fabric designs for Transport for London’s underground seating. Strongly influenced by the Bauhaus for its aesthetic and design ideology, Wallace Sewell strive to unite craft and manufacturing, embracing traditional techniques. The initial design process begins on handlooms in the London and Dorset studios. Production then takes place in a family run mill, fusing tradition with state of the art technology, allowing flexibility in order to weave a variety of qualities from small batches to larger quantities.
This exhibition showcases a selection of the stunning woven works from the last 23 years of Wallace Sewell’s creative partnership.
..
Fe sefydlwyd Wallace Sewell, y stiwdio ddylunio Brydeinig sydd yn y Deyrnas Unedig, gan Harriet Wallace-Jones ac Emma Sewell wedi iddyn nhw raddio o’r Coleg Celf Brenhinol yn 1990. Mae eu portffolio amrywiol yn cynnwys sgarffiau ar gyfer amgueddfeydd y Tate yn ogystal â dyluniadau ffabrig ‘moquette’ ar gyfer seddi tanddaear Cludiant Llundain. Gyda Bauhaus yn ddylanwad cryf gyda’i ideoleg esthetaidd a dylunio, bydd Wallace Sewell yn ymdrechu i uno crefft a chynhyrchu gan gynnwys dulliau traddodiadol. Bydd y broses ddylunio gychwynnol yn dechrau ar wydd llaw yn y stiwdios yn Llundain a Swydd Dorset. Yna bydd y cynhyrchu’n digwydd mewn melin deuluol, gan uno traddodiad â thechnoleg flaenllaw, a hynny’n caniatáu hyblygrwydd er mwyn gwehyddu amrywiaeth o ansawdd o sypiau bychan i symiau mwy.
Mae’r arddangosfa hon yn arddangos detholiad o’r gweithiau syfrdanol sydd wedi’u gwehyddu o’r tair blynedd ar hugain diwethaf o bartneriaeth greadigol Wallace Sewell.
....