….
Song Workshop with Gwilym Bowen Rhys
Education Room
..
Gweithdy Canu gyda Gwilym Bowen Rhys
Ystafell Addysg
….
….
Sunday 8 June 2025
10.30am - 4.30pm
£60 (Includes tea and coffee)
Age group – Adults
10.30 – 12.30 // 1.30 – 3.30
Performance in the gallery 4pm, which will be a sharing of the workshop songs with a few of Gwilym’s own songs to complete the set.
Gwilym Bowen Rhys is an inspiring singer and songwriter.
The printmaker Marian Haf has recently been using Gwilym Bowen Rhys’s lyrics in some of her work, which is on show at Ruthin Craft Centre 5 April – 29 June.
Come to the centre to meet and sing with Gwilym in a Welsh Folk Song workshop. He will teach three or four songs that you will perform with him at 4pm in the main gallery.
Gwilym Bowen Rhys has established himself as a worthy ambassador for Welsh language and song both at home in Wales and across the world, confirmed by his nomination for the Folk Singer of the Year Award in the BBC Radio 2 Folk Awards and winning the Best Solo Artist Award in the Welsh Folk Awards.
Hailing from the village of Bethel at the foot of Yr Wyddfa (Snowdon) in Northwest Wales, Gwilym has been singing in his native Welsh language since he can remember, giving him a deep connection with the traditional songs and music of his native land and a love of sharing his music with the local communities of this Welsh-speaking region.
Bringing to life ancient Welsh lyrics and melodies, his music is made unique by his own contemporary musical approach. His first album ‘O Groth y Ddaear’ (from The Womb Of The Earth) was released in 2016 and was shortlisted for Best Welsh Language Album of The Year at the National Eisteddfod, helping to establish him as a new and vital voice for the music of Wales.
His 5th album - ´Aden´ was released in 2025
www.gwilymbowenrhys.com
..
Dydd Sul 8 Mehefin 2025
10.30am - 4.30pm
£60 (yn cynnwys te a choffi)
Grŵp Oedran - Oedolion
10.30 – 12.30 // 1.30 – 3.30
Perfformiad yn yr oriel 4pm, a fydd yn rhannu caneuon y gweithdy gydag ychydig o ganeuon Gwilym ei hun i gwblhau’r set.
Mae Gwilym Bowen Rhys yn ganwr a chyfansoddwr caneuon ysbrydoledig.
Mae’r gwneuthurwr printiau Marian Haf wedi bod yn defnyddio geiriau Gwilym Bowen Rhys yn ddiweddar yn rhai o’i gwaith, sydd i’w weld yng Nghanolfan Grefft Rhuthun 5 Ebrill – 29 Mehefin.
Dewch i'r ganolfan i gwrdd a chanu gyda Gwilym mewn gweithdy Alaw Werin Cymru. Bydd yn dysgu tair neu bedair cân y byddwch yn eu perfformio gydag ef am 4pm yn y brif oriel.
Mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel llysgennad teilwng dros y Gymraeg a chanu, gartref yng Nghymru ac ar draws y byd hefyd. Cafodd hyn ei gadarnhau gan ei enwebiad ar gyfer Gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 a thrwy ennill Gwobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru.
Ac yntau’n hanu o bentref Bethel ar odre'r Wyddfa yng Ngogledd Orllewin Cymru, mae Gwilym wedi bod yn canu yn Gymraeg, ei iaith frodorol, ers iddo gofio, gan roi iddo gysylltiad dwfn â chaneuon a cherddoriaeth draddodiadol ei fro enedigol a chariad at rannu ei gerddoriaeth gyda chymunedau lleol yr ardal Gymraeg hon.
Mae ei gerddoriaeth, sy'n dod â geiriau ac alawon Cymraeg hynafol yn fyw, yn unigryw o ganlyniad i'w ddull cerddorol cyfoes ei hun. Rhyddhawyd ei albwm cyntaf ‘O Groth y Ddaear’ yn 2016 a chyrhaeddodd restr fer Albwm Gorau’r Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan helpu i’w sefydlu fel llais newydd a hanfodol ar gyfer cerddoriaeth o Gymru.
Rhyddhawyd ei bumed albym - Aden, yn 2025.
www.gwilymbowenrhys.com
….