….
Monoprinting with John White
Education Room
..
Monoprinting gyda John White
Ystafell Addysg
….
….
Sunday 13 July 2025
10.30am – 4.00pm
£60 (Includes all materials and tea and coffee)
Age group – Adults
John White worked for Curwen Studio early on in his career and has made lithographs for many well-known artists, including David Hockney, Henry Moore, Elisabeth Frink, Michael Landy and Sonia Boyce. He taught printmaking at Chelsea School of Art and Maidstone College of Art where he introduced Tracey Emin to monoprinting. John is also an artist in his own right and regularly exhibits his prints, inspired by music and nature, at the French House in London.
Ruthin Craft Centre has received the generous gift of two printing presses from the family of Stanley Jones who established the Curwen in the 1950s. During this day we’ll be using these presses and be considering how different printmaking processes are used to produce different effects. We’ll look at examples of work by some of the artists John has worked with before going on to make our own monoprints and experiment with creating different linear effects.
..
Dydd Sul 13 Gorffennaf 2025
10.30am – 4pm
£60 yn cynnwys yr holl ddefnyddiau, te a choffi.
Grŵp Oedran – Oedolion
Bu John White yn gweithio i Stiwdio Curwen yn gynnar yn ei yrfa ac mae wedi gwneud lithograffau ar gyfer nifer o artistiaid adnabyddus, gan gynnwys David Hockney, Henry Moore, Elisabeth Frink, Michael Landy a Sonia Boyce. Dysgodd wneud printiau yn Ysgol Gelf Chelsea a Choleg Celf Maidstone lle cyflwynodd Tracey Emin i fonoprintio. Mae John hefyd yn artist yn ei rinwedd ei hun ac yn arddangos ei brintiau yn rheolaidd, wedi’u hysbrydoli gan gerddoriaeth a byd natur, yn y French House yn Llundain.
Mae Canolfan Grefft Rhuthun wedi derbyn yr anrheg hael o ddwy wasg argraffu gan deulu Stanley Jones a sefydlodd y Curwen yn y 1950au. Yn ystod y diwrnod hwn byddwn yn defnyddio’r gweisg hyn ac yn ystyried sut mae gwahanol brosesau gwneud printiau’n cael eu defnyddio i gynhyrchu effeithiau gwahanol. Byddwn yn edrych ar enghreifftiau o waith gan rai o’r artistiaid y mae John wedi gweithio gyda nhw cyn mynd ymlaen i wneud ein monoprints ein hunain ac arbrofi gyda chreu effeithiau llinol gwahanol.
….