HAF.jpg

....Collé printing workshop with Marian Haf..Printio chine collé gyda Marian Haf....

….31 May – 1 June 2025..31 Mai – 1 Mehefin 2025….

….

Two-day chine collé printing workshop with Marian Haf

Education Room

..

Gweithdy deuddydd printio chine-collé gyda Marian Haf

Ystafell Addysg

….

….

Two-day workshop
31 May – 1 June 2025
10.30am – 4.00pm
£115 (Includes all materials and tea and coffee)
Age group – Adults

In this two-day workshop we will be transforming household packaging into playful prints using the magic of printmaking. The first day will be focused on making intaglio, relief and embossed prints. The second day will be dedicated to adding colour and texture with chine collé (a form of collaging and sticking found and made papers onto prints). Suitable for beginners and more seasoned printmakers, this workshop is also super for educators as it translates well into a classroom.

By the end of the two days, we will have learnt:

How to prepare and translate an image into both an intaglio and relief collagraph and understand their differences.

How to manipulate packaging with different tools and techniques to achieve tonal variation with contrasting linear mark making.

To ink the plate for both intaglio and relief and how to combine the two.

Which papers to choose and how to prepare them along with plate registration and good working practice in achieving a clean result, using a press.

Designed, made, inked and printed a collection of original prints using both intaglio and relief inking with chine collé.

Marian will be able to answer questions in English and Welsh

..

Sadwrn 31 Mai a Sul 1 Mehefin
10.30am–4pm
£115 yn cynnwys yr holl ddefnyddiau, te a choffi
Gallwch archebu drwy Eventbrite yma

Yn y gweithdy deuddydd hwn byddwn yn trawsffurfio defnyddiau pecynnu cartref yn brintiau chwareus gan ddefnyddio hud a lledrith creu printiau. Bydd y diwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar greu printiau intaglio, cerfweddol a boglynnog. Neilltuir yr ail ddiwrnod i ychwanegu lliw a gwydredd gyda chine-collé (ffurf ar ludweithio a glynu papurau wedi’u canfod a’u creu ar brintiau). Addas ar gyfer dechreuwyr a gwneuthurwyr printiau mwy profiadol, mae’r gweithdy hwn yn ardderchog ar gyfer addysgwyr gan ei fod yn trosi’n dda i’r ystafell ddosbarth.

Ar ddiwedd y ddau ddiwrnod, byddwn wedi dysgu:

Sut i baratoi a throsi delwedd i golagraff intaglio a cherfweddol a deall y gwahaniaethau.

Sut i drin a thrafod defnyddiau pecynnu gydag offer a thechnegau gwahanol er mwyn sicrhau amrywiad tonyddol a chreu marciau llinol cyferbyniol.

I incio plât ar gyfer intaglio a cherfwedd hefyd a sut i gyfuno’r ddau.

Pa bapurau i’w dewis a sut i’w paratoi ynghyd ag iawnlinio plât ac arfer gweithio da er mwyn cael canlyniad glân yn printio gyda gwasg

Dylunio, creu, incio a phrintio casgliad o brintiau gwreiddiol gan ddefnyddio incio intaglio a cherfweddol hefyd gyda chine-collé.

Bydd Marian yn gallu ateb cwestiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

….