28134714696_5f68f89c38_o.jpg

Anna Noël

....Anna Noël: The Language of Clay, Telling Tales..Anna Noël: Iaith Clai, Adrodd Straeon....

....23 April – 10 July..23 Ebrill – 10 Gorffennaf

....Gallery 2..Oriel 2....

....

We all enjoy a good story. Be it an intriguing myth, a local happening, or a fantastical tale, there is pleasure to be shared in the telling and receiving of stories. Anna Noël conjures stories out of clay. From early childhood to the present day, Anna’s creative instincts are imbued with tale telling.

This exhibition, Telling Tales, is the first in a series of solo exhibitions of work by practitioners who use and express clay in very different ways. The Language of Clay: Part One comprises three touring exhibitions by artists Anna Noël, Micki Schloessingk and Anne Gibbs. Each artist approaches the medium with varying perspectives, experiences and skills.

Curated by Ceri Jones. This is a touring exhibition in collaboration with Mission Gallery.

..

Rydyn ni i gyd yn mwynhau stori dda. Boed hynny’n chwedl chwilfrydig, yn ddigwyddiad lleol, neu’n hanes rhyfeddol, mae yna bleser i’w rannu wrth adrodd a derbyn straeon. Bydd Anna Noël yn consurio straeon allan o glai. O’i phlentyndod cynnar hyd y dydd heddiw, mae greddfau creadigol Anna wedi’u trwytho mewn adrodd straeon.

Yr arddangosfa hon, Adrodd Straeon, yw’r gyntaf mewn cyfres o arddangosfeydd unigol o waith gan ymarferwyr sy’n defnyddio ac yn mynegi clai mewn ffyrdd gwahanol iawn. Mae Iaith Clai: Rhan Un yn dair arddangosfa deithiol gan yr artistiaid Anna Noël, Micki Schloessingk ac Anne Gibbs. Mae pob artist yn delio â’r cyfrwng â phersbectifau, profiadau a sgiliau amrywiol iawn.

Curadur: Ceri Jones. Mae hon yn arddangosfa deithiol mewn cydweithrediad ag Oriel Mission.

....