25938962603_e402fefe17_o.jpg

....Philip Eglin: Slipping the Trail..Philip Eglin: Slipio’r Trywydd....

....Philip Eglin: Slipping the Trail..Philip Eglin: Slipio’r Trywydd....

....9 – 31 January 2016..9 – 31 Ionawr 2016....

....Gallery 2..Oriel 2....

....

Responding to the Buckley Slipware in the Aberystwyth Collection.

This touring exhibition is a collaboration between the ceramic collection at Aberystwyth and Philip Eglin, one of the major ceramicists in the UK. Over the course of the project Eglin visited the collection and made drawings and photographs of key pieces. Eglin has always been a borrower responding to things he loves in the world around him. Great paintings, old pots, children’s drawings or plastic bottles – all become sources of inspiration and flash points to set the artist’s eye on a new trajectory. He enjoys working with museum collections and, in Aberystwyth, he quickly identified the collection of nineteenth century slipware, much of it from Buckley in North Wales, as a potential for a new body of work. “I want to acknowledge the tradition of slipware whilst at the same time attempt to revitalise and reinvigorate it for the present”. It is especially appropriate that the exhibition visits Ruthin Craft Centre situated just thirteen miles away.

A collaboration between the Ceramic Collection at Aberystwyth and Philip Eglin, who has taken Buckley-ware as an inspiration to produce new work.

..

Yn ymateb i Grochenwaith Slip Buckley yng Nghasgliad Aberystwyth.

Mae’r arddangosfa deithiol hon yn gydweithrediad rhwng y casgliad serameg yn Aberystwyth a Philip Eglin, un o brif seramegyddion y Deyrnas Unedig. Yn ystod hynt y prosiect fe ymwelodd Eglin â’r casgliad a gwneud dyluniadau a ffotograffau o ddarnau allweddol. Mae Eglin wedi bod yn fenthycwr erioed yn ymateb i bethau y mae’n eu caru yn y byd o’i gwmpas. Paentiadau mawr, hen botiau, darluniadau plant neu boteli plastig – fe ddôn nhw i gyd yn ffynonellau ysbrydoliaeth ac yn fflachbwyntiau i gyfeirio llygad yr artist ar daflwybr newydd. Mae’n mwynhau gweithio â chasgliadau amgueddfeydd ac, yn Aberystwyth, fe nododd yn ddi-oed y casgliad o grochenwaith slip o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, llawer ohono o’r Bwcle yng Ngogledd Cymru, fel potensial ar gyfer corff newydd o waith. “Rydw i am gydnabod traddodiad crochenwaith slip a cheisio, ar yr un pryd, ei adfywio a’i ailfywhau ar gyfer y presennol.” Mae’n arbennig o briodol fod yr arddangosfa’n ymweld â Chanolfan Grefft Rhuthun sydd ond tair milltir ar ddeg i ffwrdd.

Cydweithrediad rhwng y Casgliad Serameg yn Aberystwyth a Philip Eglin, sydd wedi cymryd crochenwaith Buckley fel ysbrydoliaeth i gynhyrchu gwaith newydd.

....