....Neil Bottle : All That Remains..Neil Bottle : Y Cwbl sydd Ar Ôl....
....19 October 2019 – 12 January 2020..19 Hydref 2019 – 12 Ionawr 2020....
....Gallery 2 & 3..Oriel 2 & 3....
....
A new body of work, as Neil celebrates 30 years as a textile designer. Neil’s fascinating textile hangings in All That Remains are inspired by family photographs, a sense of time passing and how we remember things – in both real and false memories. The textile prints are accompanied by personal, sentimental objects that were the starting point for many of the stories Neil is telling – ‘I like the idea of objects that have history embedded in them,’ he says.
A year after graduating in Textiles and Fashion from Middlesex University in 1989, Neil won the New Designers Textile Prize, and never looked back. For many years his scarves and ties, hangings and cushions sold to the best stores across the world: Liberty, Fortnum and Mason and Harrods in England, Holt Renfrew and Neiman Marcus in the USA, Joyce in Hong Kong and of course at Ruthin Craft Centre too! Neil’s work is held in collections around the world including the Victoria and Albert Museum in London, The Cooper Hewitt Museum in New York and The Crafts Council Collection in London.
Neil moved gradually into teaching and now heads up the Department of Fashion Textiles at University for the Creative Arts. This allows him freedom from the constraints of accessory production that he established his name with: ‘I wanted to concentrate on the one-off things I’d always loved doing.’
Neil separates his textile work into pre-digital, and post digital. He was one of the first designer-makers to start to work with computers as his main medium. After taking an MA in Digital, Neil began exploring the possibilities that working digitally opened up for him. His textiles are now all digitally printed, although he does go back to work on some pieces – adding screen printing and stitch in to them.
..
Corff newydd o waith, wrth i Neil ddathlu 30 o flynyddoedd fel dylunydd tecstilau. Mae croglenni hudolus Neil yn Y Cwbl sydd ar Ôl wedi’u hysbrydoli gan ffotograffau teuluol, synnwyr o amser yn mynd heibio a’r ffordd y byddwn yn cofio pethau – mewn atgofion real a ffug. Yn cyd-fynd â’r printiau tecstil mae eitemau personol, sentimental a oedd yn fan cychwyn i lawer o’r straeon y mae Neil yn eu hadrodd – ‘Rwy’n hoff o’r syniad o eitemau sydd â hanes wedi’i wreiddio ynddyn nhw,’ meddai.
Flwyddyn ar ôl iddo raddio mewn Tecstilau a Ffasiwn o Brifysgol Middlesex yn 1989, fe enillodd Neil y ‘New Designers Textile Prize’, ac nid edrychodd yn ôl o gwbl wedi hynny. Am flynyddoedd lawer fe werthwyd ei sgarffiau a’i deis, ei groglenni a’i glustogau i’r siopau gorau ledled y byd: Liberty, Fortnum and Mason a Harrods yn Lloegr, Holt Renfrew a Neiman Marcus yn yr Unol Daleithiau, Joyce yn Hong Kong ac wrth gwrs Ganolfan Grefft Rhuthun hefyd! Mae gwaith Neil mewn casgliadau ym mhob cwr o’r byd yn cynnwys Amgueddfa Fictoria ac Albert yn Llundain, Amgueddfa Cooper Hewitt yn Efrog Newydd a Chasgliad y Cyngor Crefftau yn Llundain.
Fe symudodd Neil yn raddol at ddysgu ac yn awr mae’n bennaeth yr Adran Tecstilau Ffasiwn yn y Brifysgol ar gyfer y Celfyddydau Creadigol. Bydd hyn yn caniatáu rhyddid iddo oddi wrth gyfyngiadau cynhyrchu cyfwisgoedd y bu iddo sefydlu ei enw â nhw: ‘Roedd arnaf i eisiau canolbwyntio ar y pethau unigryw roeddwn wedi mwynhau eu gwneud bob amser.’
Bydd Neil yn gwahanu ei waith tecstil yn gyn-ddigidol, ac ôl-ddigidol. Y fo oedd un o’r dylunwyr-wneuthurwyr cyntaf i ddechrau gweithio â chyfrifiaduron fel prif gyfrwng. Wedi iddo ennill MA mewn Digidol, fe ddechreuodd Neil archwilio’r posibiliadau a oedd yn agor iddo wrth weithio’n ddigidol. Yn awr mae ei decstilau i gyd wedi’u printio’n ddigidol, er y bydd yn mynd yn ôl i weithio ar rai darnau – gan ychwanegu printio sgrîn a phwyth ynddyn nhw.
....