50319672237_9c56a328f0_o.jpg

....Jane Adam: Never The Same River..Jane Adam: BYTH YR UN AFON....

....Jane Adam: Never The Same River..Jane Adam: BYTH YR UN AFON....

....18 January – July 2020..18 Ionawr – Gorffennaf 2020....

....Gallery 3..Oriel 3....

....

“I realised I wanted to make jewellery while sitting in the Tube one day in the Seventies, looking at the people opposite. It clicked that what really interested me as a maker were the various ways in which people chose to express their individuality in an increasingly homogenised world. It became my mission to make jewellery that reflected as honestly as possible my own experience of the richness and variety of contemporary life, in the hope that other people would find in it echoes of their own. To this day, nothing makes me prouder than seeing a piece of my work being worn and reinterpreted by a stranger.

For nearly forty years now, I have involved myself in innovation and experimentation with anodised aluminium, a metal that offers unique and infinite possibilities for colouration and mark making. However, more recently I have also been working with precious metals: silver, gold and bimetal (a fusion of the two). My work explores sensuality, both in the nature of the forms themselves and in how they feel when handled and worn. By becoming part of the wearer’s experience and self-expression, my jewellery is transformed and completed.

These days I am less focused on the demands of earning a living, and more than ever on personal satisfaction and the creation of pieces which have meaning to me. So I am pondering on my future direction as a jeweller as well as looking back at the past.”

The exhibition will feature a selection of archive pieces of Jane’s jewellery over the last thirty five years, alongside new work in precious metals and in dyed anodised aluminium.

In association with Bluecoat Display Centre.

..

“Fe sylweddolais pan oeddwn yn eistedd ar y Tiwb un diwrnod yn y Saithdegau yn edrych ar y bobl gyferbyn, fod arnaf eisiau gwneud gemwaith. Fe sylweddolais mai’r hyn yr oeddwn â gwir ddiddordeb ynddo fel gwneuthurwr oedd y gwahanol ffyrdd y byddai pobl yn dewis mynegi eu hunigolrwydd mewn byd sy’n fwyfwy homogeneiddiol. Daeth yn genadwri i mi wneud gemwaith a fyddai’n adlewyrchu mor onest ag sydd bosib fy mhrofiad i fy hun o gyfoeth ac amrywiaeth bywyd cyfoes, yn y gobaith y byddai pobl eraill yn canfod ynddo adleisiau o’u profiadau eu hunain. Hyd heddiw does dim sy’n rhoi mwy o falchder i mi na gweld darn o’m gwaith i’n cael ei wisgo a’i ddehongli gan ddieithryn.

Am bron i ddeugain mlynedd yn awr fe fûm yn ymwneud ag arloesi ac arbrofi gydag alwminiwm wedi’i anodeiddio – metel sy’n cynnig posibiliadau unigryw a diderfyn o ran lliwiad a gwneud marciau. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, rwyf hefyd wedi bod yn gweithio â metelau gwerthfawr: arian, aur a deufetel (ymdoddiad o’r ddau). Mae fy ngwaith i’n archwilio cnawdolrwydd, yn natur y ffurfiau eu hunain a’r teimlad sydd iddyn nhw wrth eu trin a’u gwisgo. Drwy ddod yn rhan o brofiad ac o hunanfynegiant y gwisgwr fe drawsnewidir ac fe gyflawnir fy ngemwaith i.

Rwyf i wedi newid ac felly hefyd fy mherthynas â’m gwaith. Y dyddiau hyn mae fy ffocws yn llai ar alwadau ennill bywoliaeth ac yn fwy nag erioed ar fodlonrwydd personol a chreu darnau sydd ag ystyr i mi. Felly rwy’n myfyrio ar fy nghyfeiriad yn y dyfodol fel gemydd yn ogystal ag edrych yn ôl ar y gorffennol.”

Bydd yr arddangosfa’n rhoi lle amlwg i amrywiaeth o ddarnau archif gemwaith Jane dros y pymtheng mlynedd ar hugain diwethaf, ynghyd â gwaith newydd mewn metelau gwerthfawr ac mewn alwminiwm wedi’i anodeiddio a’i lifo.

Mewn cysylltiad â’r Bluecoat Display Centre

....