....Beverley Bell-Hughes: Tidal Echoes..Beverley Bell-Hughes: Adleisiau Llanwol....
....28 November 2020 – 22 May 2021..28 Tachwedd 2020 – 22 Mai 2021....
....Gallery 3..Oriel 3....
....
Tidal Echoes presents a new body of work by Beverley Bell-Hughes, most of it produced specially for this Ruthin Craft Centre exhibition during the Covid lockdown. Bev draws much of the inspiration for her ceramics from Conwy Morfa, a sandy beach and mussel bank in Conwy Bay, just 5 minutes’ drive from her home. Most days, in the late afternoon after a day of making (and under pressure from her dog Ben) she walks the sands there. The beach has been quiet without all the tourists, she says, which has been blissful. She likes to visit the beach after the tide has gone out. The eddies and fissures left in the sand, along with beachcombed rocks and shells, all feed into her work: ‘The exhibition is called Tidal Echoes because everything that I make relates to the sea and the beach. The echo is a suggestion; something to do with the sea but not exactly what has been seen.’
Bev thinks of her work in her solo exhibitions as groups of individual ceramics put together; a group of pieces that complement each other. Her work, she says, needs space and doesn’t look good ‘cluttered’ up. Some of her pieces need to be high up, off the ground, as the bases are very important and some can be turned on their sides. Here in Ruthin there is the space to do her work justice. The whole exhibition tells of her love affair with the sea. In fact, Bev’s ceramics are so much of the sea, they look as if they should smell salty. They are faithful to all her (and our) long-held memories of seashores, of rough elemental seas and the patterns left in sand by powerful tides. After seeing her ceramics, it can be no surprise that Bev prefers her muse – nature – to be a bit edgy: ‘I like going to the beach when the waves are quite strong. I love thunderstorms and I like huge waves. I like it when it’s raining as well and windy on the beach. I like it wild.’
..
Mae Adleisiau Llanwol yn cyflwyno corff newydd o waith gan Beverley Bell-Hughes, rhan helaeth ohono wedi’i gynhyrchu’n arbennig ar gyfer yr arddangosfa hon yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn ystod cyfnod clo’r Cofid. Daw ysbrydoliaeth Bev ar gyfer ei gwaith seramig o Forfa Conwy, traeth tywodlyd a thorlan cregyn gleision ym Mae Conwy, dim ond 5 munud yn y car o’i chartref. Yn amlach na pheidio, yn hwyr yn y prynhawn yn dilyn diwrnod o wneud (a than bwysau gan ei chi, Ben) bydd yn cerdded hyd y tywod yno. ‘Mae’r traeth wedi bod yn ddistaw heb yr holl dwristiaid,’ meddai, ‘ac mae hynny’n fendigedig’. Bydd yn hoff o ymweld â’r traeth wedi i’r llanw fynd allan. Bydd y trolifau a’r craciau a adewir yn y tywod, ynghyd â cherrig a chregyn wedi’u cribinio, yn bwydo i mewn i’w gwaith: ‘Enw’r arddangosfa yw Atseiniau Llanwol oherwydd bydd popeth y byddaf i’n ei wneud yn ymwneud â’r môr a’r traeth. Awgrym yw’r adlais; rhywbeth i’w wneud â’r môr ond nid yr hyn a welwyd yn union.’
Bydd Bev yn meddwl am ei gwaith yn ei harddangosfeydd solo fel grwpiau o ddarnau serameg unigol wedi’u rhoi gyda’i gilydd; grŵp o ddarnau sy’n ategu ei gilydd. Bydd angen gofod ar ei gwaith, meddai, ac ni fydd yn edrych yn dda ‘wedi’i ‘annibennu’. Bydd angen i rai o’i darnau fod yn uchel, oddi ar y llawr, gan fod y gwaelodion yn bwysig iawn a gellir troi rhai ohonyn nhw ar eu hochrau. Yma yn Rhuthun mae yna ofod i wneud cyfiawnder â’i gwaith. Mae’r arddangosfa gyfan yn sôn am ei charwriaeth â’r môr. Mae serameg Bev, mewn gwirionedd, yn ymwneud cymaint â’r môr, maen nhw’n edrych fel y dylen nhw arogli’n hallt. Maen nhw’n ffyddlon i’w holl atgofion hi (a ninnau) o lannau môr, o foroedd elfenaidd garw a’r patrymau a adewir mewn tywod gan lanwau pwerus. O weld ei chrochenwaith hi, nid yw’n syndod o gwbl fod yn well gan Bev i’w hawen – natur – fod braidd yn ysgythrog: ‘Rydw i’n hoff o fynd i’r traeth pan fydd y tonnau’n eithaf cryf. Rydw i wrth fy modd â stormydd taranau a thonnau enfawr. Rydw i’n hoff o’r glaw hefyd a’r gwynt ar y traeth. Rydw i’n ei hoffi’n wyllt.’
....